John Denham
(Ailgyfeiriad oddi wrth Syr John Denham)
Bardd a llenor o Sais oedd Syr John Denham (1615 - 10 Mawrth 1669). Wrth gyfieithu yr Enid gan Fyrsil o'r Lladin i Saesneg, defnyddiodd ddulliau o gyfieithu rhydd. Roedd Denham yn frenhinwr tanbaid a defnyddiodd y cyfieithiad hwn i hyrwyddo'i agenda gwleidyddol.
John Denham | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
1615 ![]() Dulyn ![]() |
Bu farw |
10 Mawrth 1669, 1689 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth |
Teyrnas Lloegr ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
bardd, ysgrifennwr, bardd-gyfreithiwr, gwleidydd, cyfreithiwr ![]() |
Swydd |
Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1661-79 Parliament ![]() |
Priod |
Ann Cotton ![]() |
Plant |
Anne Morley ![]() |
Gwobr/au |
Marchog Faglor, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol ![]() |
Ailysgrifenodd Denham lawer o waith gwreiddiol Fyrsil a'i addasu at ei ddefnydd ei hun, er enghraifft, yn Llyfr II, newidiodd Denham yr enw Priam gan ddefnyddio "the King" yn unig fel y gallai ei gynulleidfa Seisnig uniaethu â'r sefyllfa. Gellir gweld tebygrwydd rhwng dienyddiad Priam a Siarl I. Gwaneth hefyd adael cymeriadau ac enwau llefydd allan a fyddai'n gosod y stori'n amlwg y tu allan i Loegr. Cafwyd fersiwn arall o'r un testun ym 1656, yn fersiwn fwy rhugl.