Brindisi
Dinas ar arfordir de-ddwyreiniol yr Eidal a phrifddinas talaith Brindisi yw Brindisi (hen enw Lladin Brundisium). Saif yn rhanbarth Puglia (Apulia), ac roedd y boblogaeth yn 2014 yn 88,667.
![]() | |
Math | tref, cymuned yn yr Eidal ![]() |
---|---|
![]() | |
Cysylltir gyda | Llwybr Ewropeaidd E55 ![]() |
Poblogaeth | 87,141 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Province of Brindisi ![]() |
Sir | Province of Brindisi ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 332.98 km² ![]() |
Uwch y môr | 15 ±1 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Carovigno, Cellino San Marco, Latiano, Mesagne, San Donaci, San Pietro Vernotico, San Vito dei Normanni, Monopoli, Ostuni, Fasano ![]() |
Cyfesurynnau | 40.6383°N 17.9458°E ![]() |
Cod post | 72100 ![]() |
![]() | |
Saif y ddinas ar Fôr Adria, ac oherwydd ei phorthladd naturiol, mae wedi bod yn borthladd pwysig ar hyd ei hanes, gyda cysylltiadau a Gwlad Groeg, Twrci ac Albania. Dyddia'r ddinas o'r cyfnod cyn y Rhufeiniaid. Cipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid yn 267 CC, a datblygodd yn borthadd pwysig, gyda'r Via Appia yn ei chysylltu a Rhufain.