Ffesant Amherst

rhywogaeth o adar
Ffesant Amherst
Ceiliog Ffesant Amherst
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Galliformes
Teulu: Phasianidae
Genws: Chrysolophus
Rhywogaeth: C. amherstiae
Enw deuenwol
Chrysolophus amherstiae
Leadbeater, 1829

Mae'r Ffesant Amherst (Chrysolophus amherstiae ) yn aelod o deulu'r Phasianidae, y ffesantod, yn urdd y Galliformes. Fe'i ceir yn ardaloedd mynyddig de-orllewin Tsieina a Myanmar, ond mae rhai poblogaethau wedi eu sefydlu eu hunain mewn rhannau eraill o'r byd.

Mae'r Ffesant Amherst yn aderyn gweddol fawr, gyda'r ceiliog yn 100–120 cm o hyd, gyda'r gynffon hir yn gyfrifol am 80% o hyn. Gan fod y ceiliog yn aderyn lliwgar iawn, mae'r rhywogaeth yn boblogaidd mewn casgliadau adar. Nid yw'r iar mor lliwgar, ac mae'n weddol debyg i iar Ffesant cyffredin.

Mae'r Ffesant Amherst yn byw mewn coedwigoedd trwchus, ac oherwydd hyn gall fod yn anodd ei weld.Eu prif fwyd yw grawn a phryfed. Gwell ganddynt redeg ar hyd y llawr na hedfan, ond gallant hedfan yn dda ac yn gyflym pan fydd rhaid. Mae'n perthyn yn agos i'r Ffesant euraid.

Hyd yn diweddar, roedd poblogaeth o'r rhywogaeth yma wedi eu sefydlu eu hunain ger Pentre Helygain yn Sir y Fflint, ond credir bod y boblogaeth wedi diflannu bellach.

Galeri golygu