Ffesant euraid
Ffesant euraid Chrysolophus pictus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Galliformes |
Teulu: | Phasianidae |
Genws: | Chrysolophus[*] |
Rhywogaeth: | Chrysolophus pictus |
Enw deuenwol | |
Chrysolophus pictus |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Ffesant euraid (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: ffesantod euraid) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Chrysolophus pictus; yr enw Saesneg arno yw Golden pheasant. Mae'n perthyn i deulu'r Ffesantod (Lladin: Phasianidae) sydd yn urdd y Galliformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. pictus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia.
Caiff ei fagu er mwyn ei hela.
Fe'i ceir yn ardaloedd mynyddig gorllewin Tsieina, ond mae poblogaethau wedi eu sefydlu eu hunanin mewn rhannau eraill o'r byd.
Mae'r Ffesant yn aderyn gweddol fawr, gyda'r ceiliog yn 90–105 cm o hyd, gyda'r gynffon hir yn gyfrifol am ddwy ran o dair o hyn. Gan fod y ceiliog yn aderyn lliwgar iawn, mae'r rhywogaeth yn boblogaidd mewn casgliadau adar. Nid yw'r iar mor lliwgar, ac mae'n weddol debyg i iar Ffesant cyffredin.
Mae'r Ffesant Euraid yn byw mewn coedwigoedd trwchus, yn enwedig coedwigoedd conifferaidd, ac oherwydd hyn gall fod yn anodd ei weld.Eu prif fwyd yw grawn a phryfed. Adeiledir y nyth ar lawr, ac maent yn dodwy oddeutu ddeg wy. Gwell ganddynt redeg ar hyd y llawr na hedfan, ond gallant hedfan yn dda ac yn gyflym pan fydd rhaid.
Hyd yn diweddar, roedd dwy boblogaeth o'r rhywogaeth yma wedi eu sefydlu eu hunain ar Ynys Môn, ond credir bod y ddwy boblogaeth wedi diflannu bellach.[3]
Teulu
golyguMae'r ffesant euraid yn perthyn i deulu'r Ffesantod (Lladin: Phasianidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Grugiar Ddu | Lyrurus tetrix | |
Grugiar coed | Tetrao urogallus | |
Petrisen fynydd goeswerdd | Tropicoperdix chloropus | |
Petrisen goed fronwinau | Tropicoperdix charltonii | |
Sofliar frown | Synoicus ypsilophorus |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ (Saesneg) birdforum.net. Adalwyd ar 09 Mai 2012.