Cenedl a grŵp ethnig Wralaidd sydd yn frodorol i'r Ffindir yng Ngogledd Ewrop yw'r Ffiniaid. Maent yn siarad yr iaith Ffinneg. Maent yn un o genhedloedd y gwledydd Nordig, er nad ydynt yn perthyn yn agos yn ieithyddol nac yn genhedlig i'r bobloedd eraill yn y rhanbarth hwnnw, sydd yn Germanaidd. Yn hytrach, maent yn perthyn i'r bobloedd Ffinnig yn ardal ddwyreiniol Môr y Baltig, sef y Careliaid, y Fepsiaid, a'r Ingriaid yng ngogledd-orllewin Rwsia, i'r Estoniaid yn Estonia, ac i'r Lifoniaid yn Latfia.

Yn ogystal â'r boblogaeth Ffinnaidd yn y Ffindir, mae sawl grŵp mewn gwledydd cyfagos sydd naill ai'n frodorol i'r tiroedd hynny neu yn tarddu o ymfudwyr o'r Ffindir. Yn eu plith mae'r Cfeniaid a Ffiniaid y Goedwig yn Norwy, y Tornedaliaid yn Sweden, a'r Ffiniaid Ingriaidd yn Rwsia.