Ymarfer hyfforddi gyda phwysau lle mae'r llaw a'r fraich yn symud drwy'r awyr ar siâp bwa tra bod y penelin yn aros ar yr un ongl ydy fflei (Saesneg:Flye neu fly). Defnyddir fflei er mwyn ymarfer cyhyrau rhan uchaf y corff. Am fod yr ymarferion hyn yn defnyddio'r breichiau fel liferi pan maent wedi'u hymestyn hyd eu heithaf, mae faint o bwysau y gellir ei symud yn cael ei leihau'n sylweddol o'i gymharu â ymarferion gwasgu tebyg ar gyfer yr un cyhyrau (er enghraifft gellir defnyddio'r gwasg filwrol ar gyfer yr ysgwyddau a gwasg fainc ar gyfer y frest).

Gweler hefyd golygu

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Fflei o'r Saesneg "Flye". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.

Cyfeiriadau golygu