Teclyn i recordio sain ydy'r ffonograff (o'r gair Saesneg phonograph, a fathwyd o'r geiriau Groeg: γράμμα, gramma, "llythyr" a φωνή, phōnē, "llais") (hefyd gramoffon), a ddyfeisiwyd yn 1877 gan Thomas Edison[1]. Llwyddodd yn ei labordy yn New Jersey i atgynhyrchu'r llais dynol. Y geiriau cyntaf a recordiwyd erioed oedd Mary had a little lamb.

Ffonograff Crwn Edison c. 1899.

Hanes golygu

Mae'n anodd dweud pa bryd y daeth y ffonograff (neu'r gramoffon) yn fenter fasnachol lwyddiannus. Yn wreiddiol fe geisiodd cwmni'r Cylinder Phonograph addasu'r ddyfais ar gyfer swyddfeydd fel y gallesid, trwy'r llais, gofnodi llythyrau a gwybodaethau; ond ni bu'r fentur honno'n llwyddiant.

Dyfeisiwyd y ffonograff rhwng Mai a Gorffennaf 1877 wrth i Edison ymchwilio i "ail chwarae" negeseuon telegraff a'i waith trwy eu darlledu drwy'r ffôn.[2]

Mewn sioeau a ffeiriau yn America y gwnaed y defnydd cyntaf o'r rhyfeddod newydd. Ond gan mai ar silindrau cŵyr y gwneid yr atgynhyrchu, a'r rheini'n feddal, fe godai cryn broblemau. Ond tua 1895 llwyddodd Almaenwr o'r enw Berliner i wneud y record fflat gyntaf yn America. Ond yr oedd yn rhaid troi ei ddyfais yntau â llaw nes darganfuwyd ffordd i ddefnyddio sbring i gadw'r record i droi ar gyflymdra cyson.

 
Edison gyda'i ail fersiwn; ffotograff gan Mathew Brady yn Washington, Ebrill 1878

Tua 1897 sefydlodd y brodyr Gaisberg y Gramophone and Typewriter Company. Aeth adran y teipiaduron i'r wal, ond blodeuodd yr adran Gramoffon. Ond tegan oedd y ddyfais o hyd nes i F.W. Gaisberg glywed Caruso yn canu yn Yr Eidal a phenderfynu rhoi cynnig ar ei recordio. Fel arbrawf talodd gan punt i Caruso am recordio deg cân - ymgymeriad a gwblhawyd mewn un prynhawn; a dyna'r gramoffon wedi cyrraedd.

Yn ystod yr ugain mlynedd dilynol cafodd Caruso filiwn o bunnau o'i recordiau - a'r cwmni'n cael dwywaith gymaint a'r gwaith o recordio prif gantorion y byd wedi dechrau o ddifri. "Caruso" medd Gaisberg "a roddodd fri ar y gramoffon". Daeth cyfle Adelina Patti (soprano), Nellie Melba (soprano), Luisa Tetrazzini (soprano), John McCormack (tenor), Chaliapin (bas) a llu mawr hyd heddiw.

Recordio caneuon Cymraeg golygu

Pa bryd cychwynnwyd recordio caneuon Cymraeg sy'n ansicr iawn. Roedd amryw o Recordiau Cymraeg yn y Catalog ym 1902. Mae rhai cantorion a recordiwyd yn gynnar ond ni wyddys dim amdanynt: dyna Festin Davies - yr ydym yn gwybod iddo fod yn Arweinydd yr Imperial Singers, a bu'r côr meibion yma amryw o weithiau yn America.

Ond un o'r rhai cyntaf i gael ei recordio oedd y bariton David Brazell a hynny ar ddechrau'r ganrif. Dechreuodd recordio i'r Phonograph ar y cyntaf a pharhaodd i recordio hyd tua 1930.

Recordiwyd, hefyd, Dr. Mary Davies lawer blwyddyn yn ôl; roedd hi'n un o'r artistiaid yn Eisteddfod Wrecsam 1888; yr oedd hefyd yn awdurdod ar ganu gwerin. Cymerodd ran flaenllaw yn sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ym 1906 a chafodd y radd o Ddoethor mewn Cerddoriaeth ym 1916; bu farw ym 1930.

Cafwyd dadl fawr ynglŷn ag Eleanor Jones-Hudson a Bessie Jones; rhai yn ceisio dyfalu oedd yna un gantores ynteu dwy. Yn y golofn Collectors Corner yn y Gramophone bu'r golygydd mewn gohebiaeth â Bessie Jones cyn iddi farw tua dwy flynedd yn ôl. Clywyd hi'n canu ar y rhaglen Rhwng Gŵyl a Gwaith - 0 NA BYDDAI’N HAF 0 HYD pan oedd dros ei phedwar ugain oed.

Un arall o gantorion Cymru a wnaeth enw iddi ei hun oedd Leila Meganne o Bwllheli ac yn 1912 pan enillodd yn y Gen­edlaethol fe'i clywyd gan Lloyd George a'i helpodd i dalu am ei haddysg gerddorol ym Mharis dan y canwr enwog Jean de Reszke. Daeth yn wraig i T. Osborne Roberts, Ysbyty Ifan, cyfansoddŵr a cherddor cydnabyddedig.

Recordiodd un record yn y Ffrangeg "LES LARMES" a ganodd yn yr Opera Comique ym Mharis.

Un arall a fu'n llwyddiant yn y Gymraeg er wedi ei eni yn America oedd Evan Williams, tenor yn meddu ar lais cyfoethog. Bu'n canu mewn oratorïau ledled Cymru a gwnaeth lawer iawn o recordiau. Roedd yn un o artist­iaid y Red Label i H.M.V..

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Incredible Talking Machine". Time Inc. 4 Mai 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-17. Cyrchwyd 2012-05-04.
  2. Patrick Feaster, "Speech Acoustics and the Keyboard Telephone: Rethinking Edison's Discovery of the Phonograph Principle," ARSC Journal 38:1 (Gwanwyn 2007), 10-43; Oliver Berliner a Patrick Feaster, "Letters to the Editor: Rethinking Edison's Discovery of the Phonograph Principle," ARSC Journal 38:2 (Hydref 2007), 226-228.

Gweler hefyd golygu

Sylwer: Daw trwch yr erthygl uchod o'r erthygl CAN MLYNEDD O RECORDIO gan Ifor Jones yng nghylchgrawn Y Casglwr, ; mae trwydded Creative Commons Attribution 3.0 License ar holl erthyglau'r cylchgrawn.