Ffordd y Gogledd, Aberystwyth

heol yn Aberystwyth

Un o brif strydoedd preswyl Aberystwyth yw Ffordd y Gogledd (Saesneg: North Road).

Ffordd y Gogledd
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.419016°N 4.081863°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN585821 Edit this on Wikidata
Map
Gelli Anwen, Aberystwyth, arwydd â cherdd

Daearyddiaeth y ffordd

golygu

Mae Ffordd y Gogledd yn gorwedd ar ochr ogleddol-ddwyreiniol tref Aberystwyth ar echel de i'r gogledd. I'r rhan fwyaf o'r stryd dim ond tai ar ochr sydd gyda golygfa ddyrchafedig o dref Aberystwyth, y môr ac yn unionsyth o dan y ffordd, cyrtiau tenis Clwb Tenis Aberystwyth sydd a'i mynediad ar Morfa Mawr, Aberystwyth.

Mae ochr ddeheuol y ffordd yn creu cyffordd gyda Stryd y Dollborth, Ffordd Penglais a beth sydd, yn rhan o'r A487 sy'n arwain at Fachynlleth.

Mae ochr ogleddol y ffordd yn gwyro tua'r môr gyda Clinic Ffordd y Gogledd ar y chwith cyn creu cyffordd gyda Morfa Mawr, ac yna, bron yn unionsyth, stryd Glan-y-môr, Aberystwyth, sef y Promenâd enwog.

Mae'r tai yn dyddio o gyfnod diwedd oes Victoria a'r cyfnod cyn y Rhyfel Mawr yn helaeth a gosgeiddig ac ymysg y drytaf yn Aberystwyth. Yn wahanol i nifer o dai mawr tref Aberystwyth, mae nifer o deuluoedd yn dal i letya yn y stryd yn hytrach na myfyrwyr neu tai wedi eu troi'n fflatiau.

 
Plac THP-W, Aberystwyth

Rhoddwyd amlinelliad o stryd Morfa Mawr ym map William Couling o 1809 ond roedd gan mwyaf heb ei gyffwrdd yn 1834.[1] a tu ôl i'r ffordd roedd llwybr rhaff (rhopys), lle ddatblygodd Ffordd y Gogledd. Dechreuwyd adeiladu Neuadd y Dref yn 1856. Mae'r mwyafrif o'i adeiladau ar Ffordd y Gogledd a Morfa Mawr (sydd oddi tano) yn dyddio o'r 1890au ac 1900au. Ceir felly unffurfiaeth arddull i'r rhan fwyaf o'r tai.[1]

Ceir elfennau o arddull Gothig i rai o adeiladau Morfa Mawr[1]

Ceir cofnod o'r enw fel North Road yn 1889[2] sy'n cyd-fynd gyda thwf Aberystwyth wrth iddi ymestyn i'r gogledd a'r dwyrain.

T. H. Parry-Williams

golygu

Ymysg yr enwogion sydd wedi byw ar Ffordd y Gogledd mae'r bardd Syr T. H. Parry-Williams a oedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bu'n byw yn y 'Wern' a cheir plac llechen ar fur blaen y tŷ i gofnodi'r ffaith.

Evan D. Jones

golygu

Cartref olaf E. D. Jones, yr archifydd a llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1958 a 1969 oedd Penlle'rneuadd ar y stryd hon.

Ysbyty Ffordd y Gogledd

golygu
 
Clinig Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, arwydd

Un o nodweddion hanesyddol y stryd yw mai dyma oedd lleoliad ysbyty lleol, Aberystwyth Infirmary and Cardiganshire General Hospital rhwng (1838 - 1936), ac yna'r Aberystwyth and Cardiganshire General Hospital (1936 - 1966). Roedd y safle ar Ffordd y Gogledd yn weithredol rhwng 1888-1966. Tua diwedd y sefydliad oedd yn Uned Henoed (Geriatric Unit), a gaeodd ac yna a ddymchwelwyd yn 1998. Dyma oedd safle brif ysbyty nes agor Ysbyty Bronglais ar Riw Penglais, oddeutu chwarter milltir i'r gogledd.[3]

Cofnodir hanes yr ysbyty gydag enw stryd fechan 'Ffordd yr Ysbyty', sydd yn arwain oddi ar ochr ddwyreiniol Ffordd y Gogledd a thu ôl iddi.

Ceir adlais o draddodiad meddygol Ysbyty Ffordd y Gogledd gyda bodolaeth Clinig Ffordd y Gogledd ar ochr pellaf y stryd tuag at y môr. Dyma ysbyty iechyd rhyw, llygaid a thraed. Bydd yn adnabyddus i nifer o fyfyrwyr dros y degawdau gan fod modd cael cyfarpar atal cenhedlu, megis condomau, yno am ddim.

Nodweddion

golygu
 
Cyrtiau tenis Morfa Mawr o Ffordd y Gogledd

Ceir sawl nodwedd hynod i'r ffordd.

  • Lleolir cyrtiau tenis Clwb Tenis Aberystwyth oddi tan y ffordd
  • Clinig Ffordd y Gogledd
  • Fflatiau Penmorfa - ceir y blociau fflat yma ar ochr ddeheuol y ffordd.
  • Gelli Anwen - ceir llwybr troed serth sy'n arwain at Gastell Brychan, pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru sydd uwchben y ffordd. Enwir y llwybr ar ôl Anwen Tydu Jones (1963-2008) oedd yn gweithio yn y Cyngor Llyfrau. Ysgrifennwyd cerdd fer sydd ar gofeb llechen i'r llwybr gan gŵr a gweddw Anwen, y diweddar Afan ab Alun, bu am gyfnod yn Faer Aberystwyth yn 1985[4].

Geiriad y plac llechen ar droed 'Gelli Anwen'

golygu

Er cof am Anwen Tydu
28.1.1963 – 14.07.2008

Dringo wna hyd Gastell Brychan
O Ffordd y Gogledd islaw’n dre
Pedair gwaith bob dydd bu Anwen
Yn esgyn a disgyn y grisiau’n gre’

Defnyddia Anwen y llwybr gan ddringo’r cant a saith o risiau bedair gwaith y dydd am dros ugain mlynedd, mwy na deng mil ar hugain o weithiau.

Afan ab Alun

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-09-14. Cyrchwyd 2018-06-06.
  2. http://archifdy-ceredigion.org.uk/uploads/aberystwyth_street_names_table_for_website.pdf
  3. http://www.coflein.gov.uk/cy/site/3082/details/aberystwyth-infirmary-north-road-hospital
  4. https://www.aberystwyth.gov.uk/cy/cyngor/hanes-y-fwrdeistref/meiri-aberystwyth

Dolenni allanol

golygu