Fframwaith Bioamrywiaeth Fyd-eang Kunming-Montreal

Mae Fframwaith Bioamrywiaeth Fyd-eang Kunming-Montreal (Saesneg: Kunming-Montreal Global Biodiversity Framework; GBF) yn ganlyniad i Gynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig 2022. Ei theitl drafft oedd y “Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Ôl-2020” [1] Mabwysiadwyd y GBF gan 15fed Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol ar 19 Rhagfyr 2022.[2] Mae wedi cael ei hyrwyddo fel " Cytundeb Paris dros Natur".[3]

Fframwaith Bioamrywiaeth Fyd-eang Kunming-Montreal
Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, yn siarad yng nghynhadledd bioamrywiaeth 2022 ym Montreal a arweiniodd at y cytundeb hwn
Enghraifft o'r canlynolcynllun strategol Edit this on Wikidata
RhagflaenyddAichi Targets Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.cbd.int/gbf/ Edit this on Wikidata

Mae’r Fframwaith wedi’i enwi ar ôl dwy ddinas, Kunming, a oedd i fod i fod yn ddinas letyol COP15 ym mis Hydref 2020 ond a ohiriwyd ac a ganslodd ei bwriad i gynnal y gynhadledd oherwydd polisi COVID-19 Tsieina, a Montreal, sef lleoliad y Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol a ddaeth i'r adwy i groesawu COP15 ar ôl Kunming gael ei ganslo.

Mae'r GBF yn cynnwys 4 nod byd-eang ("Nodau Byd-eang Kunming-Montreal ar gyfer 2050") a 23 targed ("Targedau Byd-eang Kunming-Montreal 2030"). Cyfeirir yn arbennig at "Targed 3" fel y targed "30 wrth 30".[4] Mae'n olynu Cynllun Strategol ar gyfer Bioamrywiaeth 2011-2020 (gan gynnwys Targedau Bioamrywiaeth Aichi).[5] Mae'n nodi bod yn rhaid i wledydd roi'r gorau i arianu gweithgareddau sy'n dinistrio anialdiroedd, megis mwyngloddio a physgota diwydiannol.[6]

Y pedair nod yw:[7]

  1. Bod cyfanrwydd, gwytnwch a chysylltedd ecosystemau yn cael eu cynnal, eu gwella, neu eu hadfer, gan gynyddu arwynebedd yr ecosystemau naturiol yn sylweddol erbyn 2050, a bod difodiant rhywogaethau dan fygythiad a achosir gan ddyn yn cael ei atal erbyn 2050. Dylid gweld rhywogaethau gwyllt brodorol yn cynyddu i lefelau iach a gwydn; a bod yr amrywiaeth enetig o fewn poblogaethau o rywogaethau gwyllt a dof yn cael ei chynnal, gan ddiogelu eu potensial i ymaddasu.
  2. Bioamrywiaeth yn cael ei ddefnyddio a’i reoli mewn modd cynaliadwy ac chyfraniadau natur i ddynoliaeth yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnal a’u gwella, gyda’r rhai sy’n dirywio ar hyn o bryd yn cael eu hadfer. Bydd cefnogaeth i ddatblygu cynaliadwy, er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol erbyn 2050.
  3. Bydd y buddion o ddefnyddio adnoddau genetig, a gwybodaeth ddigidol am adnoddau genetig, a gwybodaeth draddodiadol sy’n gysylltiedig ag adnoddau genetig, yn cael eu rhannu’n deg ac yn gyfartal â phobloedd brodorol a chymunedau lleol, ac wedi cynyddu’n sylweddol erbyn 2050. Bydd gwybodaeth draddodiadol sy’n gysylltiedig ag adnoddau genetig yn cael ei diogelu’n briodol, a thrwy hynny gyfrannu at gadwraeth a defnydd cynaliadwy o fioamrywiaeth.
  4. Bydd gwledydd wedi sicrhau y bydd y gallu i weithredu yn ddigonol, gan gynnwys adnoddau ariannol, paratoi, cydweithredu technegol a gwyddonol, a mynediad i dechnoleg a’i throsglwyddo i weithredu fframwaith bioamrywiaeth fyd-eang Kunming-Montreal yn llawn ac yn deg gan bob Parti, yn enwedig gwledydd sy’n datblygu a gwladwriaethau ynysoedd bychain sy’n datblygu, a gwledydd ag economïau mewn cyfnod o drawsnewid. Gwelwn gau'r bwlch cyllid bioamrywiaeth o $700 biliwn y flwyddyn, ac yn alinio llifau ariannol â Fframwaith Bioamrywiaeth Fyd-eang Kunming-Montreal a'r gwaith a elwir yn Weledigaeth 2050 ar gyfer Bioamrywiaeth.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Preparations for the Post-2020 Biodiversity Framework". Convention on Biological Diversity (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 March 2020. Cyrchwyd 2023-03-29.
  2. "Kunming-Montreal Global Biodiversity Framework adopted at COP15". XinhuaNet. 19 December 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 December 2022. Cyrchwyd 2023-03-29.
  3. "Connecting the dots: Climate change and biodiversity interlinkages in Asia-Pacific". UNEP - UN Environment Programme (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 September 2022. Cyrchwyd 2023-03-29.
  4. "Achieving Target 3: Technical support for implementing the 30x30 target". IUCN (yn Saesneg). 7 December 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 November 2022. Cyrchwyd 2023-03-29.
  5. "A new global framework for managing nature through 2030: First detailed draft agreement debuts". Convention on Biological Diversity (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 July 2022. Cyrchwyd 2023-03-29.
  6. Irfan, Umair (2023-04-21). "7 ways we've made the Earth better since the last Earth Day". Vox (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-22.
  7. "COP15: Final text of Kunming-Montreal Global Biodiversity Framework". Convention on Biological Diversity (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-22.

Dolenni allanol

golygu