Ffranco-Brofensaleg
Iaith Romáwns yw Arpitaneg neu Franco-Brofensaleg (francoprovençâl, arpetan neu patouès) a siaredir yn nwyrain canol Ffrainc, gorllewin y Swistir a gogledd-orllewin yr Eidal. Mae ganddi nifer o dafodieithoedd ac mae'n perthyn yn agos i'r ieithoedd Romáwns cyfagos: ieithoedd Oïl, Ocsitaneg, Galo-Eidaleg a Romaunsch. Rhoddwyd yr enw Franco-Brofensaleg yw'r iaith gan Graziadio Isaia Ascoli yn y 19g oherwydd ei bod yn rhannu nodweddion â Ffrangeg a Phrofensaleg heb fod yn un neu'r llall.
Dosraniad
golyguSiaradwyd Arpitaneg yn draddodiadol yn yr ardaloedd canlynol (Arpitania):
Ffrainc
golygu- Y rhan fwyaf o'r hen ranbarth Rhône-Alpes: Savoie, Forez, Bresse, Dombes, Revermont, Gex, Bugey, Lyon, Gogledd Dauphiné, rhan o Franche-Comté, a Saône-et-Loire.
Yr Eidal
golygu- Dyffryn Aosta, ac eithrio'r cymdogaethau Walser Gressoney-Saint-Jean, Gressoney-La-Trinité ac Issime, yn Nyffryn Lys.
- Nifer fawr o gymdogaethau yn rhannau uchaf Dyffrynnoedd Arpitaneg Piemont
- Dau gilfach yn ardal y Pouilles o ganlyniad i all-fudo yn yr 14g: Faeto/Fayet a Celle di San Vito/Cèles de Sant Vuite.
Noder: Ocsitaneg a siaredir yn y dyffrynnoedd yn Ne Piemont (Dyffryn Suse, Dyffryn Cluson)
Swistir
golyguY cyfan o'r ardal romand ble mae'r Ffrangeg yn iaith swyddogol (ac eithrio canton Jura ac ardal Moutier (yng nghanton Berne), sy'n rhan o ardal y Langues d'Oïl.