Románsh

iaith
(Ailgyfeiriad o Romaunsch)

Mae Románsh (rumantsch, rumauntsch, romontsch, rumàntsch) yn iaith Reto-Romanig yng nghangen Italaidd y teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd.

Agweddau gweledol o'r iaith.

Siaradwyr golygu

Sieredir Románsh yn ardal yr Alpau Grison yn ne'r Swistir heddiw, ond ar un adeg roedd hi'n cael ei siarad hefyd yn ardal Llyn Constans yng ngogledd yr Eidal.

Dim ond rhyw 50,000 o siaradwyr Románsh a geir heddiw. Mae eu hiaith yn rhanedig gyda phump tafodiaith bur wahanol i'w gilydd, sef Sursilvan / Obwaldisch (yn rhannau uchaf Dyffryn Rhine), Sutsilvan / Nidwaldisch (yn Tungleasta, Mantogna a Schona), Surmiran / Oberhalbsteinisch (yn Sursés a Val d'Alvra), Oberengadinisch (yn Engadine Uchaf) ac Unterengadinisch (yn Engadine Isaf). Mae'r Almaeneg yn ail iaith i bob siaradwr Románsh.

 
Map o'r Swistir gan ddangos lleoliad y siaradwyr Románsh (llwydlas).

Llenyddiaeth golygu

Mae gan y Románsh draddodiad llenyddol digon anrhydeddus. Ar wahân i destun unigryw o'r 12g, tyfodd llenyddiaeth bur sylweddol ers cyfnod y Diwygiad Protestannaidd, gyda'r testun printiedig cyntaf yn ymddangos yn y flwyddyn 1552. Yn 1938 enillodd Románsh statws swyddogol yn y Swistir fel pedwaredd iaith (yn ei thalaith).

Mae llyfrau'n cael eu hargraffu yn y tafodieithoedd hyn i gyd, ond yn bennaf yn Sursilvan. Dysgir Románsh yn ysgolion yr ardal ieithyddol Románsh. Nid yw'r ymdrechion i greu iaith lenyddol safonol gyffredin i bob un o'r tafodieithoedd hyn wedi cael llawer o lwyddiant hyd yn hyn.

Enghreifftiau o Románsh golygu

Y Pader golygu

Dyma'r Pader yn nhafodiaith Sursilvan:

Bab nos, ti che eis en tschiel: sogns vegni fatgs tiu num.
Tiu reginavel vegni neutier. Tia veglia daventi sin tiara sco en tschiel.
Nies paun de mintga gi dai a nus oz.
E perduna a nus nos puccaus, sco era nus perdunein a nos culponts.
E meina nus bec en empruament, mo spendra nus dal mal. Pertgei tes ein il reinavel e la pussonza e la gliergia a semper.

Gweler hefyd golygu