Paracelsus
Meddyg ac athronydd Swisaidd ei genedl ac Almaeneg ei iaith oedd Philippus Aureolus Theophrastus Bombastus Von Hohenheim (11 Tachwedd (neu 17 Rhagfyr) 1493 – 24 Medi 1541)[1] a adwaenir gan amlaf gan ei enw Lladin, Paracelsus (/parəˈsɛlsəs/). Yn ogystal â'i astudiaethau yn ffisigwriaeth, botaneg ac athroniaeth naturiol, ymddiddorai yn alcemeg, sêr-ddewiniaeth, a'r ocwlt.[2]. Bu'n gyfrifol am ddatblygu Athrawiaeth yr Arwyddnodau.
Paracelsus | |
---|---|
Ffugenw | Paracelsus |
Ganwyd | Philippus Aureolus Theophrastus Bombastus von Hohenheim 10 Tachwedd 1493 Einsiedeln |
Bu farw | 24 Medi 1541 Salzburg |
Dinasyddiaeth | Y Swistir |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | meddyg ac awdur, astroleg, seryddwr, otolaryngologist, fferyllydd, cemegydd, athronydd, naturiaethydd, meddyg, llenor |
Swydd | athro cadeiriol |
Cyflogwr | |
Tad | Wilhelm Bombast von Hohenheim |
Mam | NN |
Er ei ganolbwynt ar agweddau goruwchnaturiol a ystyrir yn ffug-wyddonol gennym yn yr oes fodern, gwyddonydd chwyldroadol oedd Paracelsus a osododd sail i fethodoleg weithredol yn y gwyddorau iechyd a chydnabai pwysigrwydd cemeg i'r ffisigwr. Beirniadai'r dull ysgolaidd ym meysydd meddygaeth, gwyddoniaeth, a diwinyddiaeth, gan arddel arsylwi natur er diben dealltwriaeth. Eiconoclast gwyddonol ydoedd, gan iddo amau doethindeb y testunau hynafol. Ymhlith ei gampau mae disgrifiad clinigol o syffilis, ymchwil cynnar ym maes gwenwyneg,[3] enwi'r elfen sinc (zincum),[4][5] ac awgrymu cysylltiad rhwng afiechydon corfforol ac afiechyd meddwl.[6] Y llyfr Der grossen Wundartzney (1536) yw ei gampwaith.
Bywgraffiad
golyguMab ydoedd i physygwr. Ganwyd ef yn Einsiedeln, tref fechan yn Schwyz, rhai milltiroedd o bellder o Zürich, yn y flwyddyn 1493. Ymddengys na chafod efe ond ychydig o addysg reolaidd: rhyw gywreinrwydd cyffredinol a chraffder nodedig oedd un o'i brif nodweddau er yn ieuanc iawn. Tra nad oedd ond bachgen, gwnaeth ei hun yn gyfarwydd yn nghampau y consuriwr a'r swynwr, ac yn ystryw a chyfrwysdra yr arfferyllydd. Cychwynodd allan i'r byd yn grwydryn, heb un geiniog yn ei logell, i chwilio am wybodaeth; ac nid oes odid wlad yn Ewrop na bu ei draed yn ei sangu. Gwelid ei wyneb ym mhrif ysgolion yr Almaen, Ffrainc, a'r Eidal, yn ceisio pigo i fyny rhyw ddarnau o wybodaeth feddygol. Clywid ei dafod parod a rhwydd yn llefaru ym mhentrefi Sbaen, Portiwgal, Prwsia, a Gwlad Pwyl – yn ymofyn â phob math o bobl am hen draddodiadau a dirgelion cyfriniol oedd yn wasgaredig ym mysg mynachod, coegfeddygon, swynyddion, a hen wrageddos. Ymddangosai yn mysg mynyddoedd Sweden a Bohemia, yn arolygu gwaith y mŵnwyr. Gwelwyd ef yn dilyn Khan Tartary yng Nghaergystennin, gyda'r amcan o ddysgu oddi wrth ryw Roegwr yno ddirgelwch meddyglyn (elixir) Hermes Trismegistus.
Nid yw'n hysbyd pa bryd y dychwelodd efe i'r Almaen, ond ymddengys ei fod, pan yn 33 oed, wedi bod yn foddion i wellhau personau o urddas – yr hyn a'i cododdi enwogrwydd, ac yn 1526, ar gymeradwyaeth Œcolampadius, galwyd ef i lenwi cadair physygwriaeth a llawfeddygaeth ym Mhrifysgol Basil. Dechreuodd Paracelsus ar ei waith yma trwy losgi yn gyhoeddus yn neuadd y coleg weithiau Avicenna a Galen; gan sicrhau i'r edrychwyr y gwyddai careiau ei esgidiau ef fwy na'r physygwyr hynny; nad oedd yr holl brifysgolion na'r holl ysgrifenwyr yn gwybod cymaint â blew ei farf ef; ac y byddai iddo ef yn fuan gael ei ystyried yn bennaeth mewn physygwriaeth. Parodd newydd-deb ei athrawiaeth, yr hyder â pha un y llefarai am ei lwyddiant, y gallu a ymhonai i estyn bywyd ac iachau pob math o afiechyd, a'r defnydd a wnelai o iaith gyffredin yn ei ddarlithiau, iddo fod yn boblogaidd iawn gyda'r werin. Roedd lliaws mawr o efrydwyr hefyd yn ymgynnull i wrando ei ddarlithiau; a daeth llawer o gleifion i ymgynghori ag ef. Yn mysg eraill, gellir enwi y clodfawr Erasmus, yr hwn a ddioddefasai am dymor maith oddi wrth ddolur y gareg; ac arweiniodd hyn i ohebiaeth (yr hon sydd ar gael eto) rhwng y ddau ddyn hynod hyn, oeddynt mor wahanol i'w gilydd yn yr enwogrwydd a gyrhaeddasant. Ond hyd yn oed yn Basil, daeth pobl i ganfod yn fuan nad oedd y proffeswr newydd yn amgen na ffugymhonwr digywilydd. Cyn pen y flwyddyn, ychydig a elent i wrandaw ei ddarlithiau. Mor fuan ag y gwisgwyd ymaith y newydd-deb, gwelwyd nad oedd ei honiadau, lawer ohonynt, ond ffug a thwyll hollol. Syrthiodd Paracelsus i arferion anghymmedrol; a dywedai ei ysgrifennydd ei fod yn feddw bob dydd, ac na thynai ei ddillad oddi amdano y nos, ac nad elai i edrych am neb claf heb yn gyntaf yfed nes ymlenwi o win. O'r diwedd sarhaodd un o ynadon yr heddwch, yr hyn a barodd iddo ffoi ymaith o Basil tua diwedd y flwyddyn 1527. Diweddodd Paracelsus ei fywyd fel y dechreuodd ef – yn grwydryn. Roedd yn Colmar yn 1528, yn Nuremburg yn 1529, yn St. Gall yn 1531, yn Pfeffers yn 1535, ac yn Augsburg yn 1536. Yna arosodd ym Morafia am beth amser, ac aeth oddi yno i Fienna. Wedi hynny aeth i Hwngari. Yn 1541, yr ydym yn ei gael yn Mindelheim, o'r lle yr aeth i Salzburg; ac yn y meddygdy yno y bu efe farw, ar y 24ain o Fedi 1541, yn yr wythfed flwydd a deugain o'i oedran, ac yn hollol dlawd, er y proffesai ei fod yn gwybod y dirgelwch o droi meteloedd yn aur, ac yn perchen y meddyglyn sydd yn estyn bywyd i amryw o ganrifoedd.
Nid ydyw cymeriad meddygol Paracelsus wedi ei sylfaenu ar unrhyw ddarganfyddiadau penodol a wnaed ganddo, ond ar y pwysigrwydd a roddodd i fferylliaeth gyfferïol. Trwy ei iaith eofn a phenderfynol, ac yn fwy fyth trwy ei ymarferiad, efe a wasgarodd ragfarnau y physygwr Galenaidd yn erbyn cynhyrchion gweithdy'r fferyllydd. Efe oedd y cyntaf a arferodd opiwm fel peth i gynhyrchu cwsg, ac fel meddyginiaeth rhag y droedwst, twymyn, ac anhwylderau cyffelyb. Roedd Paracelsus hefyd yn nodedig am y gwasanaeth cyffredinol a wnaeth i wyddoniaeth brawtiadol. Ni chyhoeddodd Paracelsus ond ychydig o'i weithiau yn ei fywyd: wedi ei farwolaeth, pa fodd bynnag, daeth amryw argraffiadau ohonynt allan, ond y mae rhai ysgrifeniadau a briodolir iddo ef yn gynhyrchion rhai o'i ddisgyblion.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Paracelsus. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Ebrill 2017.
- ↑ Allen G. Debus, "Paracelsus and the medical revolution of the Renaissance"—A 500th Anniversary Celebration from the National Library of Medicine (1993), p. 3.
- ↑ "Paracelsus: Herald of Modern Toxicology". Cyrchwyd 23 September 2014.
- ↑ Habashi, Fathi. Discovering the 8th metal (PDF). International Zinc Association. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-06-06. Cyrchwyd 2017-04-13..
- ↑ Hefner Alan. "Paracelsus".
- ↑ "Paracelsus - Physician and Alchemist - Biography". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-29. Cyrchwyd 23 September 2014.