Ffugwyddoniaeth
Ffugwyddoniaeth yw rhywbeth sy’n ymddangos fel gwyddoniaeth heb adlynu at y dull gwyddonol.
Adnabod ffugwyddoniaeth
golyguMae ffygwyddoniaeth yn cael ei nodweddu gan y canlynol;-
Diffyg cynnydd
golyguNi fydd ymarferwyr ffugwyddoniaeth yn gwneud digon o arbrofion i weld a ydy eu syniadau yn ddibynnol ac fyddan nhw ddim yn cadw nodiadau digon manwl. Mae ganddyn nhw gymaint o ffydd yn eu damcaniaethau fel eu bod yn dueddol i beidio sylwi ar unrhyw beth amheus. Fe fyddan nhw'n gwrthod dysgu o’u profiadau, a ddim yn cywiro eu camgymeriadau. Mae yna ddiffyg symud ymlaen.
Defnyddio iaith gamarweiniol
golyguFe fydd ffugwyddonydd yn creu geiriau mawr sy’n swnio’n dechnegol er mwyn twyllo’r rhai sydd ddim yn deall gwyddoniaeth. Galw dŵr yn "hidrogen deuocsid" er enghraifft.
Personolyddiaeth
golyguMae yna glymbleidiaeth rhwng yr ymarferwyr, a maen nhw'n dueddol i gyrraedd at benderfyniadau direswm heb brofi eu syniadau. Fe fyddant yn cyhuddo gwyddonwyr o gynllwynio yn eu herbyn. Fe fyddant yn ystyried beirniaid fel gelynion ac yn eu sarhau yn bersonol.
Llinellau terfyn
golyguMae llawer o ymryson dros y linell derfyn rhwng gwyddoniaeth a ffugwyddoniaeth. Mae ambell i ffugwyddonydd wedi darganfod pethau sy'n ddefnyddiol mewn gwyddoniaeth.
Gweler hefyd
golygu- Alcemeg
- Creadaeth
- Cwacyddiaeth
- Cylchoedd cnwd (cylchau cnwd)
- Dadansoddiad seicolegol (seico-analysis)
- Ffrenoleg
- Soser hedegog
- Ofergoeliaeth
- Sêr-ddewiniaeth (astroleg)
- Symudiad parhaol