Mae Ffynnon Llugwy yn llyn o tua 40 acer ym mynyddoedd y Carneddau yn Eryri. Saif tua 1786 troedfedd uwch lefel y môr, ac mae'r dyfnder mwyaf yn 146 troedfedd.

Ffynnon Llugwy
Ffynnon Llugwy o Fwlch Eryl Farchog.
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1458°N 3.9564°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Defnyddir Ffynnon Llugwy fel cronfa ddŵr ar gyfer Bangor ac Ynys Môn, a chymerir dŵr hefyd o Afon Llugwy sy'n llifo o'r llyn. Caiff y dŵr yma ei drosglwyddo i Lyn Cowlyd. Mae Afon Llugwy yn llifo drwy Capel Curig a Betws-y-coed i Afon Conwy.

Llyfryddiaeth golygu

  • Geraint Roberts The Lakes of Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, 1985)