Ffynnon Seiriol, Clorach
Mae ffynnon Seiriol wedi'i lleoli ar dir fferm Clorach, ar ochr y ffordd sy'n mynd o Faenaddwyn i Llannerch-y-medd yn Ynys Môn
Math | ffynnon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Clorach |
Gwlad | Cymru |
Hanes
golyguYn y 19eg ganrif roedd y ffynnon yn cael ei defnyddio ar gyfer iachau cleifion. Roedd pobol yn dod at y ffynnon yn hwyr gyda’r nos i gario dŵr ohoni am nad oedd y cleifion digon da i ddod ati. Yn 1833 ysgrifennodd yr hynafiaethydd Cymreig Angharad Llwyd fod y dŵr yn
“ | ...held in high estimation and were visited for healing...[1] | ” |
Roedd y ffynnon hefyd yn cael ei defnyddio gan gariadon a pharau priod oedd wedi ffraeo ac yn dod ati i gymodi. Mae llawer yn dweud bod yna bodlonrwydd i’w deimlo wrth ddod at y ffynnon hon. Mae rhai yn credu bod yna lefel o ymbelydredd naturiol uwch na’r cyffredin sydd yn y ffynnon.
Roedd trigolion yr ardal yn defnyddio’r ffynnon tan bumdegau’r 20ed ganrif. Daeth dŵr tap i’r ardal a chodwyd caead drosti rhag i anifeiliaid fynd iddi.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Ffynhonnau Cymru - Cyfrol 2 - Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn (Llyfrau Llafar Gwlad 43)