Llannerch-y-medd

gymuned yn y sir Gymreig Môn, yng Nghymru, a leolir ar arfordir gogledd orllewin y sir

Am leoedd eraill o'r enw "Llannerch", gweler Llannerch.

Llanerchymedd
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaTref Alaw Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.327248°N 4.387343°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000028 Edit this on Wikidata
Cod OSSH4110483805 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Pentref a chymuned yn Ynys Môn yw Llannerch-y-medd ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (hefyd Llanerchymedd). Fe'i lleolir ger Llyn Alaw yng nghanol yr ynys. Am ganrifoedd bu'n adnabyddus am ei ffair a ddenai gwerthwyr a phrynwyr o bob rhan o'r ynys.[1]

Ceir yma ysgol gynradd, siop gyffredin, siop flodau a siop sglodion yn Llannerch-y-medd yn ogystal â chlwb ieuenctid a pharc.

Hen Swyddfa bost, Llannerch-y-medd

Tarddiad yr enw golygu

Mae dwy ran i'r enw: llannerch sy'n golygu "lle agored wedi ei glirio" a medd, sef diod alcoholaidd wedi'i gwneud o fêl); mae'n bosib fod yn yr ardal, felly, ddigon o wenynwyr yn y gorffennol.[2]

 
Llannerch y medd tua 1875
 
Ellis Wirion un o gymeriadau Llannerch-y-medd

Capeli golygu

  • Capel Ifan 1838
  • Capel Mawr 1818
  • Y Tabarnad 1818

Clorach golygu

Prif: Clorach

Tua milltir a hanner i'r dwyrain o'r pentref ceir hen blasty Clorach (fferm heddiw), a fu'n gartref i Gwilym ap Tudur a chyrchfa i'r beirdd yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Yn ôl traddodiad llên gwerin a ysbrydolodd gerdd gan Syr John Morris-Jones, arferai'r seintiau cynnar 'Seiriol Wyn' a 'Chybi Felyn' gyfarfod bob wythnos yng Nghlorach am ei fod yng nghanol yr ynys. Lewis Morris yw'r cyntaf i sôn am hynny, yn y 18g. Gan fod Seiriol yn cerdded â'r haul ar ei gefn yno ac yn ôl arhosodd ei wyneb yn wyn, ond y gwrthwyneb yn achos Cybi gan droi ei wyneb yn felyn.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

Tafarndai o'r oes a fu golygu

Roedd 15 o dafarndai yn Llannerch-y-medd ar un adeg a'r rheini oedd:

  • Blue Bell-Elizabeth Edmonds
  • Bell Inn (Hefyd y swyddfa tollau)-Edward Collier
  • Cross Keys-David Aubrey
  • Crown and Anchor-John Hughes
  • Druid-Richard Parry
  • George & Dragon-Walter Jones
  • King's Head-Evan Williams
  • Liver-Richard Price
  • Llwydiarth Arms-William Jones
  • Lord Nelson-William Aubrey
  • Red Lion-John Jones
  • Ship-Elizabeth Morris
  • Ty Coch-Owen Owens
  • Wheat Sheaf-Owen Jones
  • White Horse-David Burgess [3]

Busnesau golygu

Roedd un banc, The National Provincial ar agor ar ddydd Mercher. Y rheolwr oedd Samuel Greathead.

Dyma rhestr o fusnesau oedd yn bodoli ym 1850: 6 crydd, 4 cigydd, 4 negeswyr, 10 groser, 10 tafarn, 5 saer, 2 gwneuthurwr hewinedd, 2 cyfrwywr, 2 seiri maen, 2 llawfeddygon, 4 teiliwr, 2 gwneuthurwyr oriawr a chlociau ac 18 busnes teuluol aralll [4]

Côr Meibion y Foel golygu

Cryddion golygu

Yn 1832 oedd yna 250 o gryddion yn gweithio yn Llannerchymedd ond erbyn 1893 dim ond 10 o gryddion yn gweithio yno. Nid oedd y cryddion yn gweithio ar ddydd Sul nac ar ddydd Llun.

Pobl o Lannerch-y-medd golygu

Damwain Rheilffordd golygu

Rheilffordd canolbarth Môn - trên cyntaf ar y 1af o Orffennaf, 1866. Digwyddodd y ddamwain ar y 29ain o Dachwedd, 1877. Digwyddodd law trwm, dychrynllyd, a gorlifodd Llyn y Pandy dros yr argae. Rhuthrodd y trên yn ôl i stesion y Llan ac ail gychwynodd am Rosgoch gyda 3 person arni, y gyrrwr, taniwr a arolygydd y rheilffordd. Ond, roedd y glaw dal i fynd a syrthiodd y trên i mewn i'r afon a'i thrwyn i fyny. Ail adeiladwyd pont newydd o gerrig ac roedd y bont yn cael ei gydnabod fel 'Pont y ddamwain.' Ac mae'r pont dal i sefyll yno rwan.

India Roc 'nymbar 8 Llan'achmedd' golygu

Yn y 1800au, cafodd yr 'India roc' ei chyflwyno i Lannerch-y-medd. Redd ganddo rif 8 arno oherwydd roedd pobl yn dylunio ffurf 'neidr' i greu rhif 8. Roedd yna fasiwn beth a 'pin' 8 pwynt, ond doedd neb yn gwybod pam. Ar ôl i'r dyn cyntaf i gyflwyno India roc farw, cymerodd ei fab Huw y busnes drosodd. Roedd yr India roc yma'n cael ei werthu ym marchnadoedd Llangefni ac roedd yr India roc yn cael ei chadw a'i bacio mewn bocsys bananas.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llannerch-y-medd (pob oed) (1,360)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llannerch-y-medd) (952)
  
73.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llannerch-y-medd) (999)
  
73.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llannerch-y-medd) (207)
  
36.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Dafydd Wyn William, 'Ffair, Marchnad a Phorthmyn', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972).
  2. Melville Richards, 'Enwau Lleoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972).
  3. Pigot's Trade Directory 1828-29.
  4. Slaters Directory1850.
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y di-waith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.