Ffynnon fawr a hanesyddol yn Rhufain, Yr Eidal, yw Ffynnon Trevi (Eidaleg: Fontana di Trevi). Mae hi'n 25.9 medr o uchder a 19.8 medr o led, a hi yw'r ffynnon Baroc fwyaf yn y ddinas. Saif ar groesffordd tair ffordd (tre vie).

Ffynnon Trevi
Mathcerflun, atyniad twristaidd, ffynnon Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1735 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPiazza di Trevi Edit this on Wikidata
SirTrevi, Municipio I Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.9009°N 12.4832°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Faróc Edit this on Wikidata
Deunyddtrafertin Rhufain, marmor Carrara Edit this on Wikidata

Yn y 15g adferwyd hen arfer Rhufeinig o osod ffynnon ar ddiwedd bob 'traphont' hir i'r ddinas. Yn y Canol Oesoedd roedd y Rhufeinwyr yn tynnu dwr o ffynhonau dwfn llygredig. Felly yn 1453, adeiladwyd y Ffynnon Trevi wreiddiol gan Pab Nicolas V wedi i'r Rhufeinwyr trwsio'r draphont Acqua Vergine.

Yn 1629 comisiynodd Pab Urbanus VIII Gian Lorenzo Bernini i greu ffynnon fwy trawiadol i wynebu'r Palas Quirinal. Er gwychder cynllun Bernini, ffynnon gan Nicola Salvi sy'n sefyll yno heddiw. Comisiynwyd hyn yn 1730 gan y Pab Clement XII.

Erbyn heddiw mae miloedd o dwristiaid yn taflu arian i mewn i'r ffynnon bob dydd (tua tair mil ewro y dydd) yn y gred bod hynny'n sicrhau bydd rhywun yn dychwelyd eto i Rufain. Mae'r grisiau o gwmpas y Ffynnon yn lle boblogaidd i eistedd drwy'r flwyddyn ac edmygu'r celfyddwaith.

Tu ôl i'r ffynnon mae'r Palazzo Poli, ac mae cerflun trawiadol o'r duw Triton hefyd.

Y Cwpan Asso di coppe

Cyfeiriadau

golygu