Moryd Forth

(Ailgyfeiriad o Firth of Forth)

Moryd neu aber agored Afon Forth ar arfordir dwyreiniol yr Alban yw Moryd Forth (Gaeleg yr Alban, Linne Foirthe; Sgoteg Firth o Forth, Saesneg Firth of Forth; Cymraeg Canol, Moryd Gweryd ac 'Aber Gweryd';[1] Lladin Bodotria). Saif Fife ar yr ochr ogleddol a Gorllewin Lothian, dinas Caeredin a Dwyrain Lothian ar yr ochr ddeheuol. Mae'r llanw yn cyrraedd cyn belled a Stirling, ond fel rheol ystyrir fod y firth yn gorffen gwer Pont Kincardine. Yn ddaearegol, ffiord yw Moryd Gweryd, gan iddi gael ei naddu gan rewlif.

Moryd Forth
Mathmoryd, aber, ffiord Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau56.1667°N 2.75°W Edit this on Wikidata
Map
Map o Foryd Forth (Firth of Forth)

Ceir nifer o drefi ar hyd lannau'r foryd, gyda diwydiannau pwysig, yn cynnwys Grangemouth, Leith, Methil, Inverkeithing, Prestonpans a Rosyth. Croesir y foryd gan bont i'r rheilffordd a phont enwof i'r briffordd, a disgwylir i bont ychwanegol agor yn 2008. Ceir nifer o ynysoedd yn y foryd; yr enwocaf yw Bass Rock.

Fferi Ro-Pax Blue Star 1 yn mynd tan y bont ar y ffordd o Rosyth i Zeebrugge

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, t. 535.