Flintshire (Cambridge County Geographies)

Flintshire yw'r gyfrol yn y gyfres Cambridge County Geographies sy'n ymdrin â'r hen Sir Y Fflint.[1]

Map o Sir Y Fflint allan o'r gyfrol

Cefndir golygu

Mae Cambridge County Geographies yn gyfres o lyfrau a gyhoeddwyd gan Wasg Brifysgol Caergrawnt yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Cynlluniwyd Cambridge County Geographies i ddarparu cyfres o ganllawiau cryno i rai o siroedd Cymru, Yr Alban a Lloegr. Wedi'u hanelu at y darllenydd cyffredinol, fe wnaethant gyfuno dull cynhwysfawr o ymdrin ag amrywiol agweddau ar ddaearyddiaeth gorfforol a dynol gyda phwyslais ar eglurder. Mae'r llyfrau yn frith o ffotograffau, mapiau a graffiau. Ysgrifennwyd y gyfrol am Sir Y Fflint gan John Morgan Edwards, prifathro Ysgol Sir Treffynnon, ar y pryd, ac fe'i cyhoeddwyd gyntaf ym 1914 gan Wasg Brifysgol Caergrawnt. Ailgyhoeddwyd y gyfrol yn 2012,[2] mae'r ailgyhoeddiad dal mewn print. Mae modd darllen y gyfrol wreiddiol ar wefan Internet Archive.[3]

Cynnwys golygu

Mae'r llyfr yn cynnwys 22 pennod sy'n ymdrin â tharddiad ac ystyr yr enw Fflint; nodweddion cyffredinol y sir a'i afonydd, llynnoedd ac arfordiroedd yn ogystal â'i phorthladdoedd. Mae'r gyfrol yn ymdrin â hanes pensaernïaeth, enwogion a hynafiaethau'r sir yn ogystal â thrafodaeth am pobl, iaith a phoblogaeth. Mae penodau am ddaeareg, hanes naturiol, hinsawdd a diwydiant. Mae hefyd rhestr gyda pharagraff am holl drefi a phentrefi Sir Y Fflint.

Penodau golygu

Dyma restr o benodau'r gyfrol:

  1. County and Shire. Meaning and Origin of the word Flint
  2. General Characteristics
  3. Size. Shape. Boundaries
  4. Surface and General Features
  5. Watersheds. Rivers. Lakes
  6. Geology and Soil
  7. Natural History
  8. Coastal Gains and Losses
  9. Climate and Rainfall
  10. People, Race, Dialect
  11. Agriculture
  12. Industries and Manufactures
  13. Mines and Minerals
  14. Fisheries and Fishing Stations
  15. Shipping and Trade
  16. The History of Flintshire
    1. From the Coming of the Romans to the Norman Conquest
    2. Tegeingl in Domesday Book
    3. From Gruffydd ap Cynan to the Statute of Rhuddlan
    4. From the Formation of the County in 1284 to the Great Civil War
  17. Antiquities
  18. Architecture
    1. Ecclesiastical.
    2. Military
    3. Domestic
  19. Communications Past and Present
  20. Divisions Ancient and Modern. Administration. Population
  21. Roll of Honour
  22. The Chief Towns and Villages of Flintshire

Cyfeiriadau golygu

  1. Edwards, John Morgan (1914). Flintshire. Caergrawnt: Gwasg Brifysgol Caergrawnt.
  2. Edwards, J. M. (2012). Flintshire. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 978-1-107-66406-7. OCLC 806493626.
  3. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-12-08.