John Morgan Edwards

Athro, dramodydd ac awdur (1868-1924)

Athro a phrifathro ysgol oedd John Morgan Edwards (31 Mai 186816 Mawrth 1924). Roedd yn awdur nifer o lyfrau ac ef oedd dramodydd swyddogol cwmni Hughes a'i fab Wrecsam ar gyfer addasu nofelau Daniel Owen i'r llwyfan.

John Morgan Edwards
FfugenwOnomato Edit this on Wikidata
Ganwyd31 Mai 1868 Edit this on Wikidata
Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mawrth 1924 Edit this on Wikidata
Treffynnon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathro, hanesydd, dramodydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Edwards ar fferm Goed y Pry, Llanuwchllyn, yn bedwerydd fab i Owen Edwards, ffermwr, ac Elizabeth (Betsi) née Jones ei wraig. Roedd yn frawd i Syr Owen Morgan Edwards, Thomas Jones Edwards, a'r Athro Edward Edwards.[1]

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Bala ac Athrofa MC y Bala.[2] Bu yn fyfyriwr Prifysgol ym Mangor a Choleg yr Iesu, Rhydychen.[3]

Yn ei ieuenctid roedd Edwards yn athletwr brwd. Roedd yn chwarae Rygbi, yn rhwyfwr ac yn nofiwr brwd. Pan oedd yn fyfyriwr ym Mangor bu bron iddo boddi wrth geisio nofio o Fangor i Fiwmares dros Afon Menai.[4] Bu'n gadeirydd clwb tenis Abermaw

Gyrfa golygu

Bwriad J M Edwards oedd mynd i weinidogaeth y Methodistiaid Calfinaidd, derbyniwyd ef yn ymgeisydd i'r weinidogaeth[5] ac yn bregethwr dan brawf ym 1891. Fe'i derbyniwyd ef yn aelod o Gyfarfod Misol Dwyrain Meirionnydd fel pregethwr ym 1892.[6]

Oherwydd i'w iechyd torri bu'n rhaid i J M ymadael a phrifysgol Rhydychen ychydig cyn derbyn ei radd. Wedi bod adref yn Llanuwchllyn i geisio adfer ei iechyd gwnaeth gais am swydd is athro yn ysgol Ganolradd Abermaw. [7] Er mae swydd i lenwi twll hyd iddo wella digon i ail afael yn ei ymgais am y weinidogaeth ydoedd i fod, arhosodd yn athro ysgol hyd ddiwedd ei fywyd. Ymadawodd a'i swydd yn Abermaw, ym 1897 er mwyn darfod ei gwrs gradd yn Rhydychen[8]. Wedi ennill gradd BA dychwelodd i'w swydd ym Medi 1898. Ym mis Rhagfyr 1898 cymerodd ofalaeth Capel Caersalem, Abermaw am gyfnod yn absenoldeb y Parch J Gwynoro Davies oedd wedi mynd am fordaith er mwyn ei iechyd.[9]

Ym Mis Mawrth 1900 derbyniodd JME alwad i fod yn weinidog ar gapeli'r Methodistiaid yn Llanbedr a'r Gwynfryn, Meirionnydd. Gwrthododd yr alwad gan ei fod wedi derbyn swydd newydd fel athro gwyddoniaeth yn ysgol ganolradd y Rhyl.[10] Bu yn y Rhyl am tua phedair blynedd, pan dderbyniodd swydd Prifathro Ysgol Sir Treffynnon. Arhosodd yn Brifathro Treffynnon hyd ei farwolaeth ym 1924. Ymysg ei ddisgyblion oedd y dramodydd Emlyn Williams.

Gyrfa fel llenor golygu

Dechreuodd gyrfa lenyddol gyhoeddus J M Edwards pan yn fyfyriwr yn Rhydychen. Bu'n danfon colofn wythnosol Nodion o Rydychen[11] i'r Cymro o dan y ffugenw "Onomato", wedi i JME ymadael a Rhydychen dechreuodd Onomato ysgrifennu O Lan/Fin y Llyn[12][13] (hy Llyn Tegid), yn ystod cyfnod ei salwch yn Llanuwchllyn ac yna O'r Bermo[14] cyn ail afael a Nodion o Rydychen yn ystod cyfnod ei ddychweliad i Rydychen. Yn ystod yr un cyfnod bu'n cyfrannu erthyglau misol, o dan ei enw bedydd, ar wahanol agweddau o hanes, cymdeithas a llenyddiaeth y genedl i gylchgrawn Owen, ei frawd, Cymru.[15]

Pan ddechreuodd gyrfa JME fel athro, roedd dysgu'r Gymraeg mewn ysgolion yn ddatblygiad newydd. Roedd byrddau Arholiadau Lleol Rhydychen a Chaergrawnt, a bwrdd arholi Prifysgol Cymru newydd wneud y Gymraeg yn un o'u testunau arholiadau ysgol. Fel ei frodyr Owen ac Edward, roedd John yn gweld yr angen dybryd am werslyfrau i gynorthwyo dysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion, ac aeth ati i gyhoeddi rhai:—

Llyfryddiaeth golygu

  • Mabinogion O Lyfr Coch Hergest Llyfr I. Yn cynnwys Pwyll, Pendefig Dyfed; Branwen Ferch Llyr; Manawyddan Fab Llyr, a Math Fab Mathonwy wedi eu haddasu ar gyfer disgyblion ysgol a'r werin.
  • Mabinogion O Lyfr Coch Hergest Llyfr 2 Y rhamantau atodol i'r Pedair Cainc a Hanes Taliesin
  • Pieces for Translation. Casgliad o ddarnau llenyddol Cymraeg i ddisgyblion ceisio eu cyfieithu i'r Saesneg a darnau llenyddol Saesneg i'w cyfieithu i'r Gymraeg.
  • Dyddiau Ysgol— Detholion o Weithiau Daniel Owen, gyda Geirfa
  • Oriau Difyr— Ail ddetholiad o Waith Daniel Owen
  • Ceiriog a Mynyddog—Pigion allan o weithiau'r ddau fardd poblogaidd, gyda geirfa helaeth, cynllun wers i athro a disgybl, bywgraffiadau byrion, a darluniau
  • Perlau Awen Islwyn—Detholiad allan o weithiau Islwyn, gyda nodiadau, geirfa, a darluniau.
  • Y Seint Greal
  • Yng Ngwlad y Gwyddel—Teithlyfr am ymweliad yr awdur i'r Iwerddon
  • Hanes a chan / Story and song — Detholiad o Hanes a Barddoniaeth i Ieuenctid Cymru, Gartref, yn yr Ysgol, ac yn y Coleg; Gyda Geirfa

J. M Edwards oedd awdur y Gyfrol Flintshire  yng nghyfres Cambridge County Geographies[16]

Dramodydd Daniel Owen golygu

 
Clawr Rhys Lewis (drama)

O herwydd poblogrwydd llyfrau Daniel Owen gwnaeth nifer o bobl ceisio gwneud cyflwyniadau llwyfan o'r nofelau. Aeth Daniel Owen a'i gyhoeddwr Hughes a'i fab i fygwth cyfraith yn Erbyn Cwmni Drama Trefriw am berfformio drama yn seiliedig ar Rhys Lewis. O herwydd amryfusedd cyfreithiol parthed statws yr hawlfraint (hawlfraint y "llyfr" oedd gan Hughes a'i fab nid hawlfraint y "gyfres" a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn "Cymru" a doedd deddf Hawlfraint 1842 dim yn cydnabod hawlfraint cylchgronau a newyddiaduron) daeth dim achos llys. Ond llwyddwyd i ddifetha taith y Cwmni Drama trwy i'r enwadau anghydffurfiol rhoi gwaharddiad ar eu haelodau rhag mynychu perfformiadau o'r drama. Sylweddolodd Hughes a'i fab bod angen cael "dramodydd swyddogol" ar gyfer gweithiau Daniel Owen. Rhoddwyd y swydd i J M Edwards.

Ysgrifennodd J M Edwards pedair ddrama seiliedig ar waith Daniel Owen

  • Rhys Lewis (drama)
  • Gwen Tomos (drama)
  • Y Dreflan (drama)
  • Enoc Huws (drama)

Ond gan fod y boycott. ar gwmni ddrama Trefriw wedi ei selio ar anfoesoldeb chwaryddiaeth am bynciau crefyddol megis traddodiad beirniadol y Methodistiaid yn erbyn Dramâu Miragl ac Anterliwtiau, aeth i ddŵr poeth efo'i enwad ef a Daniel Owen am eu cyhoeddi.[17]

Teulu golygu

Priododd Nansi Jones o Lanuwchllyn ym 1908  cawsant un ferch

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref yn Nhreffynnon ar ôl gystudd byr yn 56 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llanuwchllyn.[18]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyfrifiad 1891, Coed y Pry, Llanuwchllyn. RG 12/4639
  2. "Newyddion Crefyddol - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1895-11-12. Cyrchwyd 2022-09-02.
  3. Foster, Joseph. Oxford Men 1880-1892 With a record of their Schools Honors and Degrees. Oxford, England: James Parker & Co., 1893.
  4. Welsh Gazette 20 Mawrth 1924 Obituary—Brother of Vice Principal Edward Edwards
  5. "Home & Foreign Chit Chat - Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal". Hugh Jones. 1891-03-20. Cyrchwyd 2022-09-02.
  6. "Y Methodistiaid - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1892-03-23. Cyrchwyd 2022-09-02.
  7. "Ysgol Canolradd Abermaw - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1895-12-19. Cyrchwyd 2022-09-02.
  8. "Abermaw - Y Dydd". William Hughes. 1897-05-28. Cyrchwyd 2022-09-02.
  9. "Taith i Fôr y Canoldir - Y Dydd". William Hughes. 1898-12-23. Cyrchwyd 2022-09-02.
  10. "Newyddion Cymreig - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1900-03-15. Cyrchwyd 2022-09-02.
  11. "Nodion o Rydychen - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1892-11-10. Cyrchwyd 2022-09-02.
  12. "O Lan y Llyn- Y Cymro". Isaac Foulkes. 1895-01-31. Cyrchwyd 2022-09-02.
  13. "O Fin y Llyn - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1895-07-18. Cyrchwyd 2022-09-02.
  14. "O'r Bermo - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1895-10-24. Cyrchwyd 2022-09-02.
  15. "Welsh Echoes From London - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1894-10-20. Cyrchwyd 2022-09-02.
  16. Edwards, John Morgan (1914). Flintshire. Caergrawnt: Gwasg Brifysgol Caergrawnt.
  17. Digio Daniel a Blino’r Blaenoriaid
  18. Flintshire County Herald 28 Mawrth 1924; The Late Mr J. M. Edwards