Florencio Sánchez
Dramodydd a newyddiadurwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Florencio Sánchez (17 Ionawr 1875 – 7 Tachwedd 1910). Roedd yn un o aelodau La Generación del 900.
Florencio Sánchez | |
---|---|
Ganwyd | Florencio Antonio Sánchez Mussante 17 Ionawr 1875 Montevideo |
Bu farw | 7 Tachwedd 1910 Milan |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, dramodydd, dramodydd, gwleidydd |
Adnabyddus am | Honest people, M'hijo el dotor, Canillita, En familia |
Arddull | dramayddiaeth |
Ganwyd ym Montevideo a chafodd ei fagu yng nghefn gwlad. Gweithiodd fel clerc tra'n ysgrifennu beirniadaeth theatr ac erthyglau eraill ar gyfer papurau newydd lleol. Bu hefyd yn actio yn y theatr amatur. Brwydrodd wrth ochr y caudillo Aparicio Saravia yn erbyn yr Arlywydd Juan Idiarte Borda, ac ysgrifennodd y llyfr El caudillaje criminal en Sudamérica (1903) am ei brofiad. Trodd Sánchez at y mudiad anarchaidd, a pherfformiwyd ei ddramâu cynnar mewn canolfannau hamdden yr anarchwyr.[1]
Gweithiodd i bapurau newydd, gan gynnwys La República yn Rosario, yr Ariannin. Ei lwyddiant mawr cyntaf oedd y ddrama El canillita (1904). Teithiodd i gefn gwlad yr Ariannin, a'i brofiadau yno a ysbrydolodd La gringa (1904), M'hijo el dotor (1903), a Barranca abajo (1905). Symudodd Sánchez i Buenos Aires.[1]
Aeth i'r Eidal gyda chymorth ariannol llywodraeth Wrwgwái i ymweld â theatrau'r wlad. Bu farw ym Milan yn 35 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Georgette Magassy Dorn, "Sánchez, Florencio (1875–1910)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 28 Ebrill 2019.
Darllen pellach
golygu- Anastasia Detoca, Estética e ideología en el teatro de Florencio Sánchez (Montevideo: Ediciones del CEHU, 2003).
- Fernando García Esteban, Vida de Florencio Sánchez: Con cartas inéditas del insigne dramaturgo (1939).
- Roberto Fernando Giusti, Florencio Sánchez: Su vida y su obra (1920).
- Osvaldo Pellettieri a Roger Mirza, Florencio Sánchez entre las dos orillas (Buenos Aires: Galerna, 1998).
- Walter Rela, Florencio Sánchez: Persona y teatro (1967).
- Ruth Richardson, Florencio Sánchez and the Argentine Theater (1933).
- Ignacio Rosso, Anatomía de un genio: Florencio Sánchez (Montevideo: Ediciones de la Casa del Estudiante, 1988).