Mae Foras na Gaeilge ("Sefydliad y Wyddeleg") yn gorff statudol sy'n gofalu am yr iaith Wyddeleg ac yn ei hyrwyddo yn y ddwy uned wleidyddol yn Iwerddon, sef 26 sir Gweriniaeth Iwerddon a chwe sir Gogledd Iwerddon. Mae'n un o'r cyrff traws-ffiniol a sefydlwyd yn sgîl Cytundeb Gwener y Groglith. Fe'i sefydlwyd ar yr 2il o Ragfyr 1999, ac yn y 26 sir fe gymerodd drosodd swyddogaeth y cyrff Bord na Gaeilge, An Gúm, ac An Coiste Téarmaíochta, oedd yn gyrff statudol yn y Weriniaeth.

Foras na Gaeilge
Enghraifft o'r canlynolasiantaeth lywodraethol, rheoleiddiwr iaith Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2 Rhagfyr 1999 Edit this on Wikidata
PencadlysDulyn, Belffast Edit this on Wikidata
Enw brodorolForas na Gaeilge Edit this on Wikidata
GwladwriaethGweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gaeilge.ie Edit this on Wikidata

Swyddogaethau golygu

Hyrwyddo'r Wyddeleg;
Hwyluso ac annog defnydd llafar ac ysgrifennu mewn bywyd cyhoeddus a phreifat yng Ngweriniaeth Iwerddon ac, yng nghyd-destun Rhan III o'r Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol, yng Ngogledd Iwerddon lle mae galw priodol;
Cynghori gweinyddiaethau, cyrff cyhoeddus a grwpiau eraill yn y sectorau preifat a gwirfoddol;
Ymgymryd â phrosiectau cefnogol, a chyrff a grwpiau cymorth grant yn ôl yr angen;
Ymgymryd ag ymchwil, ymgyrchoedd hyrwyddo, a chysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau;
Datblygu terminoleg a geiriaduron;
Cefnogi addysg cyfrwng Gwyddeleg a dysgu Gwyddeleg.

Canolfannau golygu

Sefydlir sawl Áras na Gaeilge ("Llety/Adeilad y Wyddeleg") gan Foras na Gaeilge fel canolfan ar gyfer gweithgarwch dros yr iaith ar draws tiriogaeth Iwerddon. Yn y Áras na Gaeilge yn Nulyn lleolir gorsaf radio gymunedol Wyddeleg ar gyfer y ddinas, sef, Raidió na Life.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.