John Daniel Evans
Roedd John Daniel Evans (1862 – 6 Mawrth 1943) yn un o arloeswyr Y Wladfa ym Mhatagonia. Oherwydd ei fod yn amlwg fel arweinydd teithiau i’r paith, cafodd yr enw El Baqueano.[1]
John Daniel Evans | |
---|---|
John Daniel Evans, El Baqueano | |
Ganwyd | 1862 Aberpennar |
Bu farw | 6 Mawrth 1943 Trevelin |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Galwedigaeth | fforiwr |
Bywgraffiad
golyguGaned John Daniel Evans yn Aberpennar, Morgannwg, yn fab i Daniel a Mary Evans. Roedd y teulu yn y fintai gyntaf a deithiodd i Batagonia ar y Mimosa yn 1865. Efallai mai dylanwad tad Mary, John Jones o Aberdâr, oedd yn gyfrifol am hyn, oherwydd roedd ei deulu ef yn gyfran sylweddol o deithwyr y Mimosa.[1]
Daeth John Evans yn amlwg fel un oedd yn awyddus i fforio’r Paith. Yn Nhachwedd 1883 arweiniodd grŵp tua'r Andes, yn chwilio am aur ac am dir ffrwythlon. Ar y ffordd, deuthant ar draws mintai o filwyr yn dwyn carcharorion Tehuelche i Valcheta, rhan o un o ymgyrchoedd olaf Concwest yr Anialwch. Penderfynodd rhai o'r grŵp droi yn ôl, ond aeth pedwar yn eu blaenau dan arweiniad John Evans.[1]
Erbyn diwedd Chwefror 1884, roeddynt wedi cyrraedd Afon Gualjaina, ac yno roedd tri aelod o'r llwyth oedd dan arweiniad y cacique Foyel. Roedd un o'r tri, Juan Salvo, yn eu hadnabod, a dywedodd ei fod yn amau eu bod yn ysbïo dros y fyddin, Ceisiodd ei harwain at Foyel, a phan wrthodasant, datblygodd cweryl. Penderfynodd y pedwar ddychwelyd i ran isaf Dyffryn Camwy, 600 km i ffwrdd, gyda rhyfelwyr Foyel yn ei dilyn. Ar 4 Mawrth ymosodwyd arnynt, a lladdwyd tri cydymaith Evans. Anelodd Evans, ar gefn Malacara, tua dibyn serth, a llamodd y ceffyl i lawr y dibyn ac i fyny yr ochr arall. Ni feiddiai yr un o'r ymosodwyr geisio ei ddilyn, a llwyddodd John Evans i ddychwelyd i'r Wladfa yn ddiogel. Cafodd y man lle bu'r ymosodiad yr enw Dyffryn y Merthyron (Sbaeneg:Valle de los Mártires).[1]
Yn 1885 roedd John Evans yn un o arweinyddion y fintai a aeth ar daith i’r ardaloedd ger yr Andes gyda’r Rhaglaw Luis J. Fontana. Ar y daith yma y darganfuwyd Cwm Hyfryd, ardal a wladychwyd gan y Cymry. Yn Hydref 1891 mudodd John Evans a’i deulu i Gwm Hyfryd. Adeiladodd felin yno, a’r felin hon a roes yr enw Trefelin i’r pentref. Bu farw ei wraig yn 1897, ac ail-briododd yn 1900 ag Annie Hughes de Williams. Daeth John Evans yn eithaf cefnog erbyn y cyfnod yma. Bu farw yn 1943.[1]
Cof
golyguCodwyd tŷ mor debyg ag oedd modd i dŷ cyntaf John Evans yn Nhrefelin dan yr enw "Cartref Taid", sy’n gweithredu fel amgueddfa. Yn Nhrefelin hefyd gellir gweld bedd Malacara.
Llyfryddiaeth
golygu- Paul W. Birt (gol.) Bywyd a gwaith John Daniel Evans, El Baqueano. (Gwasg Carreg Gwalch, 2004) ISBN 0-86381-910-9