Frances Hardcastle
Ffeminist, swffragét a mathemategydd o Loegr oedd Frances Hardcastle (13 Awst 1866 - 26 Rhagfyr 1941). Yn 1894 roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Fathemateg America a'i harbennigedd oedd grŵp pwyntiau, rhan o fathemateg sy'n ymwneud â chymesuredd.[1][2][3]
Frances Hardcastle | |
---|---|
Ganwyd | 13 Awst 1866 Writtle |
Bu farw | 26 Rhagfyr 1941 Stocksfield |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mathemategydd, swffragét, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Cyflogwr | |
Tad | Henry Hardcastle |
Mam | Maria Sophie Herschel |
Perthnasau | William Herschel |
Fe'i ganed ym mhentref Writtle ger Chelmsford, Essex ar 13 Awst 1866; bu farw yn Stocksfield, 10 milltir i'r dwyrain o Newcastle upon Tyne. Bar-gyfreithiwr oedd ei thad, Henry Hardcastle, ac roedd tad ei mam, John Herschel, yn seryddwr, yn fathemategydd ac yn gemegydd.[4][5][3][6]
Fe'i haddysgwyd yn Ngholeg Girton, Caergrawnt, lle cafodd radd B.Sc mewn mathemateg.[3]
Yn 1892 aeth i Brifysgol Chicago am gyfmod o flwyddyn, fel cymrawd er anrhydedd, yna treuliodd flwyddyn arall yng Ngholeg Bryn Mawr yn astudio o dan Charlotte Scott. Ym Mryn Mawr bu'n llywydd y Graduate Club, a chyfieithodd lyfr Felix Klein Ar Theori Riemann o Ffwythiannau Algebraidd ac Integrynnau (gw. integryn). Yn 1895 ailddechreuodd astudiaethau ôl-raddedig yng Nghaergrawnt, ac o fewn ychydig flynyddoedd cyhoeddodd nifer o bapurau ar grwpiau pwyntiau.[3] Enillodd radd BA o Brifysgol Llundain ym 1903 a dyfarnodd Coleg y Drindod Dulyn MA (ad eundem) iddi yn 1905. [7][8]
Hawliau merched
golyguCytunai Hardcastle gydag amcanion Cyngres Ryngwladol Menywod (International Congress of Women) a luniwyd yn Den Haag yn Ebrill 1915, sef:
- Y ceisir atebion heddychlon i anghytundebau rhyngwladol, rhwng gwledydd ac
- Y dylai menywod chwarae rhan hanfodol mewn materion mewnol gwledydd[9]
Hyd at 1909 hi oedd Ysgrifennydd Anrhydeddus Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau dros rhoi'r Bleidlais i Fenywod (the National Union of Women's Suffrage Societies (NUWSS)).[10]
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bulletin of the American Mathematical Society. Society. 1942. Cyrchwyd 19 Hydref 2012.
- ↑ Patricia C. Kenschaft (2005). Change Is Possible: Stories of Women And Minorities in Mathematics. American Mathematical Society. t. 47. ISBN 978-0-8218-3748-1. Cyrchwyd 19 Hydref 2012.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 M. Ogilvie (6 Gorffennaf 2000). The Biographical Dictionary of Women in Science: Pioneering Lives From Ancient Times to the Mid-20th Century. Taylor & Francis US. t. 555. ISBN 978-0-415-92038-4. Cyrchwyd 19 Hydref 2012.
- ↑ Tad: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Mam: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Creese, Mary R. S.; Creese, Thomas M. (January 1998). Ladies in the laboratory?: American and British women in science, 1800–1900 : a survey of their contributions to research. Scarecrow Press. t. 195. ISBN 978-0-8108-3287-9. Cyrchwyd 19 Hydref 2012.
- ↑ Alma mater: Oxford Dictionary of National Biography. Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Galwedigaeth: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Oldfield, Sybil (7 Ionawr 1994). "England's Cassandras in World War One". This Working-Day World: Women's Lives And Culture(s) In Britain, 1914–1945. Taylor & Francis. tt. 92–94. ISBN 978-0-7484-0107-9. Cyrchwyd 19 Hydref 2012.
- ↑ Elizab Crawford (22 Ionawr 2001). "National Union of Women's Suffrage Societies". Women's Suffrage Movement: A Reference Guide, 1866-1928. Routledge. tt. 436–442. ISBN 978-0-415-23926-4. Cyrchwyd 19 Hydref 2012.