Frances Harper
Ffeminist Americanaidd oedd Frances Harper (24 Medi 1825 - 22 Chwefror 1911) sy'n cael ei hystyried yn: nofelydd, bardd, darlithydd, swffraget ac yn fam i newyddiaduraeth Affricanaidd-Americanaidd.
Frances Harper | |
---|---|
Ganwyd | Frances Ellen Watkins 24 Medi 1825 Baltimore |
Bu farw | 22 Chwefror 1911, 20 Chwefror 1911 Philadelphia |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | nofelydd, bardd, newyddiadurwr, llenor, darlithydd, awdur storiau byrion, ymgyrchydd dros hawliau merched, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Adnabyddus am | Iola Leroy |
Gwobr/au | Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland |
llofnod | |
Ysgrifennai am gaethiwed a diddymiad caethwasiaeth, hawliau dynol ac urddas, hawliau a chydraddoldeb menywod, cyfiawnder hiliol a chymdeithasol, trais yn y lluoedd arfog, hawliau pleidleisio (etholfraint), moesoldeb, hunangymorth hiliol, a chydweithrediad rhwng gwledydd. Roedd hi'n weithgar mewn diwygio cymdeithasol ac roedd yn aelod o Undeb Dirwestol y Cristion Benywaidd, a oedd yn argymell bod y llywodraeth ffederal yn chwarae rhan mewn diwygio a gwella cymdeithas.[1]
Fe'i ganed yn ferch rydd, yn Baltimore, Maryland, Unol Daleithiau America ar 24 Medi 1825; bu farw yn Philadelphia. Yn 67 oed, ysgrifennodd y clasur o nofel Iola Leroy (1892). [2][3][4][5][6][7][8]
Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, sef cyfrol o farddoniaeth, pan oedd yn ugain oed, gan ei gwneud yn un o awduron Affro-Americanaidd cyntaf. Yn 1851, gyda William Still, cadeirydd Cymdeithas Diddymu Caethwasiaeth Pennsylvania, cynorthwyodd llawer o gaethweision a oedd wedi dianc o'u 'perchnogion' i ryddid yng Nghanada. Cychwynodd ei gyrfa fel siaradwr ac ymgyrchydd gwleidyddol, yn syth wedi iddi ymuno â Chymdeithas America yn Erbyn Caethwasiaeth yn 1853.
Y llyfr a werthodd fwya ganddi oedd Poems on Miscellaneous Subjects (1854) a'i stori fer "Two Offers" oedd y gyntaf gan fenyw ddu.
Sefydlodd, cefnogodd a chynhaliodd Harper swyddi mewn sawl sefydliad cenedlaethol blaengar. Yn 1883 daeth yn uwcharolygydd yn yr Adran Lliw o Undeb Dirwestol Cristnogol Menywod Philadelphia a Pennsylvania. Yn 1894 cyd-sefydlodd Cymdeithas Genedlaethol y Menywod Lliw (*National Association of Colored Women) a bu'n is-lywydd o'r gymdeithas honno.
Bu farw Harper yn 85 oed ar Chwefror 22, 1911, naw mlynedd cyn i fenywod gael yr hawl i bleidleisio.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Clybiau Merched Duon am rai blynyddoedd. [9][10]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland (1987)[11] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jackson, Tricia Williams (2016). Women in Black History: Stories of Courage, Faith, and Resilience. Revell. tt. 58–65.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Frances Harper". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Frances Ellen Harper". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Frances E. W. Harper". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Frances E.W. Harper". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Frances Harper". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Frances Ellen Harper". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Frances E. W. Harper". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Frances E.W. Harper". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 23 Rhagfyr 2014
- ↑ Grwp ethnig: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.
- ↑ Galwedigaeth: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.
- ↑ Anrhydeddau: https://msa.maryland.gov/msa/educ/exhibits/womenshall/html/whflist.html.
- ↑ https://msa.maryland.gov/msa/educ/exhibits/womenshall/html/whflist.html.