Frances Thomas

awdur Cymreig

Awdures Gymreig yw Frances Thomas (ganed 21 Hydref 1943, Aberdâr), sy'n ysgrifennu llyfrau i blant yn yr iaith Saesneg.[1]

Frances Thomas
Ganwyd1943 Edit this on Wikidata
Aberdâr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, awdur plant Edit this on Wikidata

Ganed Thomas yn Aberdâr yn ystod yr Ail Ryfel Byd i dad Cymreig, David Elwyn, a mam Seisnig/Gwyddelig, Agnes Connor. Dychwelodd y teulu i Lundain wedi i'r rhyfel ddod i ben a dyna lle magwyd Thomas. Astudiodd ym Mhrifysgol Llundain cyn gwneud cwrs dysgu. Mae'n gweithio gyda phobl ifanc dyslecsig.

Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, The Blindfold Track ym 1980 gan Macmillan ac enillodd Wobr Tir na n-Og ym 1981.

Enillodd ei llyfr cyntaf ar gyfer oedolion, sef y nofel Seeing Things a gyhoeddwyd gan Gollancz ym 1986, wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1987. Daeth hefyd yn agos at cipio Gwobr Nofel Gyntaf Whitbread ym 1986.

Llyfryddiaeth golygu

Llyfrau plant golygu

Llyfrau oedolion golygu

  • Seeing Things, 1986 (Gollancz)
  • The Fall of Man, 1989 (Gollancz)
  • Christina Rossetti - a biography, 1994 (Virago)
  • Almost Paradise - Poems of Christina Rossetti 1844-1894, golygwyd gan Andrew Rice-Oxley, 2004

(ARO books)

Gwobrau ac anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Frances Thomas (PDF). Cyngor Llyfrau Cymru.

Dolenni allanol golygu