Francesco Bartolomeo Rastrelli
Roedd Francesco Bartolomeo Rastrelli (Rwseg: Франческо Бартоломео (Варфоломей Варфоломеевич) Растрелли) (1700 ym Mharis Deyrnas Ffrainc - 29 Ebrill 1771 yn St Petersburg, Ymerodraeth Rwsia) yn bensaer Eidalaidd a weithiodd yn bennaf yn Rwsia. Datblygodd arddull hawdd ei adnabod o Faróc Hwyr a oedd yn ysblennydd a mawreddog. Mae ei waith mawr, gan gynnwys Palas y Gaeaf yn St Petersburg a Phalas Catherine yn Tsarskoye Selo yn enwog am eu moethusrwydd ac addurn anhygoel.[1]
Francesco Bartolomeo Rastrelli | |
---|---|
Ganwyd | 1700 Paris |
Bu farw | 29 Ebrill 1771 (yn y Calendr Iwliaidd) St Petersburg |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia |
Galwedigaeth | pensaer |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Rundāle Palace, Saint Andrew's Church, Anichkov Palace, Vorontsov Palace, Palas Gaeaf, Smolny Cathedral, Catherine Palace, Stroganov Palace, St Petersburg, Moscfa, Tsarskoye Selo |
Mudiad | Baróc |
Tad | Carlo Bartolomeo Rastrelli |
Bywgraffiad
golyguYm 1716, symudodd Bartolomeo i St Petersburg, Rwsia, ynghyd â'i dad, y cerflunydd Eidalaidd Carlo Bartolomeo Rastrelli (1675-1744). Ei uchelgais oedd cyfuno ffasiwn pensaernïol diweddaraf yr Eidal gyda thraddodiadau arddull Baróc Moscow. Daeth y comisiwn pwysig cyntaf ym 1721 pan ofynnwyd iddo adeiladu palas i'r Tywysog Demetre Cantemir cyn-reolwr Moldavia.
Fe'i penodwyd i swydd uchel bensaer y llys ym 1730. Cafodd ei waith ei ffafrio gan bendefigion benywaidd ei gyfnod, felly cadwodd ei swydd trwy gydol teyrnasiad yr ymerodresau Anna (1730-1740) ac Elizabeth (1741-1762).
Prosiect olaf a mwyaf uchelgeisiol Rastrelli oedd y Convento Smolny yn St Petersburg lle bu'r Ymerodres Elizabeth yn treulio gweddill ei bywyd. Bwriadwyd i dŵr clochdy'r conventio bod yr adeilad talaf yn St Petersburg a Rwsia i gyd. Ond daeth marwolaeth Elizabeth ym 1762 a gobeithion Rastrelli i gyflawni'r dyluniad mawreddog hwn i ben heb ei gwblhau.
Bu'r i'r ymerodres newydd, Catherine II ymwrthod a phensaernïaeth Faróc gan ei ddisgrifio fel hufen chwisg hen ffasiwn", a bu rhaid i'r pensaer oedrannus ymddeol i Courland lle bu'n goruchwylio cwblhau ac addurno'r palasau dugol.
Treuliwyd ei flynyddoedd diwethaf mewn masnach di nod gyda chrefftwyr Eidaleg. Fe'i hetholwyd i Academi'r Celfyddydau Ymerodraethol ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth. Mae'r sgwâr o flaen y Convento Smolny wedi dwyn enw Rastrelli ers 1923. Mae'n destun y cyfansoddiad cerddorol, Rastrelli yn St Petersburg, a ysgrifennwyd yn 2000 gan y cyfansoddwr Eidalaidd Lorenzo Ferrero.
Deg adeilad gan Rastrelli sydd dal i fodoli
golygu# | Delwedd | Enw | Lleoliad | Dyddiad |
---|---|---|---|---|
1 | Palas Rundāle | Pilsrundāle ger Bauska Latfia |
1736—1740 1764—1767 | |
2 | Palas Jelgava | Jelgava Latfia |
1738—1740 1763—1772 | |
3 | Palas Peterhof | Peterhof ger St. Petersburg Rwsia |
1747—1755 | |
— | Capeli Palas Peterhof | Peterhof ger St. Petersburg Rwsia |
1747—1751 | |
4 | Eglwys San Andreas Kiev | Kiev Wcráin |
1748—1767 | |
5 | Cwfaint Smolny | St. Petersburg Rwsia |
1748—1764 | |
6 | Palas Vorontsov | St. Petersburg Rwsia |
1749—1757 | |
7 | Palas Catherine | Tsarskoe Selo (Pushkin) Rwsia |
1752—1756 | |
— | Pafiliwn y Feudwyfa | Tsarskoe Selo (Pushkin) Rwsia |
1749 | |
8 | Palas Mariyinsky | Kiev Wcráin |
1752 1870 | |
9 | Palas Stroganov | St. Petersburg Rwsia |
1753—1754 | |
10 | Palas y Gaeaf | St. Petersburg Rwsia |
1754—1762[2] |
Adeiladau a dymchwelwyd
golygu# | Delwedd | Enw | Nodiadau | Lleoliad | Dyddiad |
---|---|---|---|---|---|
1 | Annenhof | Adeiladwyd o goed, wedi'i ddisodli gan Balas Catherine (Moscow) | Moscow Rwsia |
1731 | |
2 | Palas gaeaf Anna | Wedi'i ddisodli gan Balas y Gaeaf | Saint Petersburg Rwsia |
1732—1735 dymchwelwyd 1754 | |
3 | Palas yr haf | Adeiladwyd o goed, dymchwelwyd i wneud lle i Gastell Saint Michael | Saint Petersburg Rwsia |
1741—1744 dymchwelwyd 1797 | |
4 | Palas gaeaf y Kremlin | dymchwelwyd i wneud lle i Balas Mawr y Kremlin | Kremlin Moscfa Rwsia |
1747—1756 ailadeiladwyd 1798 dymchwelwyd 1837 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bartolomeo Francesco Rastrelli. Encyclopædia Britannica
- ↑ https://books.google.com/books?id=yfPYAQAAQBAJ&pg=PA657