Frank Mills
Roedd Frank Matthew Mills (18 Mawrth 1873 - 18 Chwefror 1925) [1] yn flaenwr rygbi a chwaraeodd rygbi clwb i Gaerdydd ac Abertawe ac a enillodd 13 cap i Gymru. Roedd yn un o garfan Cymru a enillodd y Goron Driphlyg a'r bencampwriaeth i Gymru am y tro cyntaf ym 1893.
Mills yng nghrys Cymru (1895) | |||
Enw llawn | Frank Matthew Mills | ||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 18 Mawrth 1873 | ||
Man geni | Aberpennar | ||
Dyddiad marw | 18 Chwefror 1925 | (51 oed)||
Lle marw | Porthcawl, | ||
Taldra | 6' | ||
Pwysau | 13 st + | ||
Gwaith | Ymgymerwr angladdau | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | Rheng flaen | ||
Clybiau amatur | |||
Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
?-1892 1892–1894 1894–1897 |
Aberpennar Abertawe Caerdydd Sir Forgannwg | ||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
1892–1896 | Cymru | 13 | (0) |
Bywyd personol
golyguGanwyd Mills yn Aberpennar, yn blentyn i William Mills, cigydd, a Mary Ann (née Cavill) ei wraig, fe'i haddysgwyd yn..... Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel ymgymerydd angladdau. Ym 1898 priododd â Sarah Ann John. Bu iddynt ddwy ferch. Bu farw ym Mhorthcawl yn 51 oed.
Gyrfa rygbi
golyguEr bod Mills wedi chwarae i Aberpennar yn wreiddiol,[2] daeth i'r amlwg fel chwaraewr rygbi pan gynrychiolodd y clwb dosbarth cyntaf Abertawe,[3] yr ymunodd ag ef ym 1892. Yn ystod ei dymor cyntaf yn Abertawe cafodd ei ddewis i chware i Gymru am y tro cyntaf gan ymuno a'r pac gyda'i gyd gapiau newydd, Wallace Watts ac Arthur Boucher.[4] Er bod Watts a Boucher yn chwarae i Gasnewydd, byddai gyrfa ryngwladol Mills yn adlewyrchu eu rhai hwy gan chwarae 11 gêm gyda Boucher a 12 gyda Watts.
Roedd ei ymgyrch gyntaf gyda Chymru yn un wael i'r wlad. Chwaraeodd Mills ym mhob un o dair gêm Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1892, a chollodd Cymru bob un ohonynt. Er gwaethaf hyn, cadwodd y detholwyr ffydd gyda'r tîm ac yn arbennig y blaenwyr, a dalodd ar ei ganfed y tymor olynol, pan enillodd Cymru, dan gapteiniaeth Arthur Gould y Goron Driphlyg am y tro cyntaf yn eu hanes. Chwaraeodd Mills ym mhob un o'r tair gêm, mewn pac a gafodd ei gydnabod am ei bwysau, ei gryfder a'i dactegau sgrymio.
Ail-ddewiswyd Mills ar gyfer Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1894, ond arweiniodd cymysgedd o gyflyrau maes chwarae gwael ac ymladd mewnol ymysg aelodau carfan Cymru at ddwy golled a dim ond un fuddugoliaeth. Ar ddiwedd tymor 1894, nodir bod Mills wedi chwarae o leiaf un gêm i Forgannwg, ochr yn ochr â'i gyd aelod o dîm Abertawe, Billy Bancroft.[5] Y tymor nesaf roedd Mills wedi newid clybiau o Abertawe i Gaerdydd, ond wedi cadw ei safle yng ngharfan Cymru. Trwy chwarae ym mhob un o dair gêm Pencampwriaeth 1895 roedd Mills wedi cynrychioli Cymru mewn 12 gêm ryngwladol yn olynol, a’i gêm olaf i Gymru oedd gêm agoriadol twrnamaint 1896, a welodd Lloegr yn rhedeg saith cais heibio Cymry heb ateb. Collodd dewiswyr Cymru ffydd yn y pac, gan ddod â phum cap newydd i mewn ar gyfer y gêm nesaf. Roedd Mills yn un o'r chwaraewyr a ddisodlwyd ni chafodd cynrychioli Cymru eto.
Gemau rhyngwladol
golyguCymru [6]
Llyfryddiaeth
golygu- Alcock, C.W.; Hill, Rowland (1997). Famous Rugby Footballers 1895. Horefield: Yore Publications. ISBN 1-874427-42-9.
- Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883–1983. Llundain: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
- Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Frank Mills player profile ESPN Scrum.com
- ↑ Mountain Ash RFC, club history
- ↑ "SWANSEA V NEWBRIGHTON - The Cambrian". T. Jenkins. 1892-12-30. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "INTERNATIONAL MATCH - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1892-01-04. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ GENUK Newspaper extracts Western Mail 4 April 1894.
- ↑ Smith (1980), tud 469.
- ↑ "IFOOTBALLNOTES - South Wales Echo". Jones & Son. 1892-01-04. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "ENGLAND AND WALES AT FOOTBALL - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1893-01-12. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "ENGLAND V WALES - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1894-01-08. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "TODAY'S GREAT MATCH - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1895-01-05. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "ENGLAND V WALES - The Cambrian". T. Jenkins. 1896-01-10. Cyrchwyd 2021-03-03.
- ↑ "THE WELSH PLAYERS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-03-05. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "International FootballI - South Wales Echo". Jones & Son. 1893-03-13. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "Irelands Lucky Win - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1894-03-12. Cyrchwyd 2021-03-03.
- ↑ "THEGAME - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1895-03-16. Cyrchwyd 2021-03-03.
- ↑ "THE INTERNATIONAL MATCH - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-02-08. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "SCOTLANDvWALES - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1893-02-04. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "WALES AND SCOTLAND MEET AT NEWPORT - The Western Mail". Abel Nadin. 1894-02-05. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "SCOTLAND v WALES - South Wales Echo". Jones & Son. 1895-01-26. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "Ireland v Wales - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1896-03-16. Cyrchwyd 2021-03-03.