Roedd Arthur William Boucher (29 Mehefin, 187025 Ebrill, 1948) yn flaenwr rygbi rhyngwladol a chwaraeodd rygbi clwb i Gasnewydd a rygbi gwahoddiad i'r Barbariaid. Chwaraeodd mewn 13 o gemau rhyngwladol i Gymru.

Arthur William Boucher
Dyddiad geni ( 1948-06-29)29 Mehefin 1948
Man geni Gobowen, Swydd Amwythig,
Dyddiad marw 25 Ebrill 1948(1948-04-25) (77 oed)
Lle marw Dinas Powys Sir Forgannwg
Taldra 5' 11½ "
Pwysau 12 st 9 lb
Ysgol U. Ysgol Clytha, Casnewydd
Gwaith Clerc rheilffordd
Rheolwr allforio glo
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Blaenwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
1889–1899
1892–1893
Casnewydd
Y Barbariaid
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1882–1897 CymruCymru 13 (3)

Cefndir

golygu

Ganwyd Boucher yn Gobowen, Swydd Amwythig yn blentyn i Charles Boucher, gweinyddwr cwmni rheilffordd ac Emilie (née Davies) ei wraig. Roedd y tad yn hanu o Rydychen a'r fam o Wrecsam. Ym 1871 symudodd y teulu i Gaerfaddon ac ym 1874 setlodd y teulu yng Nghasnewydd. Cafodd Boucher ei addysgu yn Ysgol Clytha, Casnewydd.

Wedi ymadael a'r ysgol yn 15 mlwydd oed aeth Boucher i weithio fel clerc cyffredinol i gwmni Great Western Railways yn eu swyddfa yng Nghaerdydd ym 1885. Ym 1888 cafodd dyrchafiad i fod yn glerc nwyddau'r cwmni yng Nghasnewydd.[1] Ymadawodd a'r rheilffyrdd ym 1892 i weithio i gwmni allforio glo fel clerc ac wedyn fel rheolwr.

Gyrfa Rygbi

golygu

Gyrfa clwb

golygu

Dechreuodd Boucher ei yrfa rygbi fel blaenwr i dîm Casnewydd yn nhymor 1889/90 [2] gan chware i'r tîm am ddegawd gan gynnwys gwasanaethu fel capten am dri thymor. Roedd yn rhan o dîm di guro 1891/92 ar y cyd ag Arthur Gould. Yn ogystal â chware rygbi i Gasnewydd bu Boucher a Gould yn chwaraewyr amlwg yn nhîm criced y dref.[3]

Wedi rhoi'r gorau i chwarae bu Boucher yn parhau a'i gysylltiad â rygbi trwy wasanaethu fel is lywydd Clwb rygbi Dinas Powys.[4] Bu hefyd yn un o sylfaenwyr Clwb Badminton Dinas Powys.[5]

Gyrfa ryngwladol

golygu

Dewiswyd Boucher i chwarae i Gymru am y tro cyntaf ar 2 Ionawr 1892 yn erbyn Lloegr.[6] Daethpwyd ag ef i mewn gyda chyd-flaenwr Casnewydd, Wallace Watts, a dewiswyd y ddau i chwarae yn yr un garfan ddeng waith. Cafodd tîm Cymru eu curo’n gadarn gan Loegr, gan fethu ag ennill unrhyw un o’r gemau ym Mhencampwriaeth y tymor hwnnw. Y tymor nesaf chwaraeodd Boucher rhan wrth i Gymru ennill y Goron Driphlyg am y tro cyntaf. Erbyn 1897 roedd wedi ennill 13 cap. Yn ei gêm olaf i Gymru yn erbyn Lloegr, sgoriodd Boucher ei unig gais dros ei wlad. Oherwydd yr anghydfod am roi tysteb i Arthur Gould, oedd yn cael ei ystyried fel tâl am chwarae gêm amatur gan rai, ni chwaraeodd Cymru unrhyw gemau pellach y tymor hwnnw.[7]

Gemau rhyngwladol

golygu

Cymru

  •   Lloegr 1892, 1893, 1894, 1895, 1896, 1897
  •   Iwerddon 1892, 1893, 1895, 1896
  •   yr Alban 1892, 1893, 1895

Priododd Boucher â Frances Claribel Heard ym 1902 cawsant fab a dwy ferch. Roedd Grace, ei ferch gyntaf, yn fam i'r awdur llyfrau plant Dick King-Smith.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn Ninas Powys yn 77 mlwydd oed.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Yr Archif Genedlaethol, Llundain Cofnodion Staff y Great Western Railway Company: Cyfeirnod: RAIL264/7
  2. "TOMORROW'S FOOTBALL - South Wales Echo". Jones & Son. 1889-09-20. Cyrchwyd 2020-08-31.
  3. "CRICKET - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1890-05-12. Cyrchwyd 2020-08-31.
  4. "FOOTBALL PROSPECTS AT DINAS POWIS - Barry Dock News". South Wales Advertising, Printing, and Publishing Company. 1908-08-21. Cyrchwyd 2020-08-31.
  5. "BADMINTON CLUB FOR DINAS POWIS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-10-19. Cyrchwyd 2020-08-31.
  6. "International Match - South Wales Echo". Jones & Son. 1892-01-02. Cyrchwyd 2020-08-31.
  7. "GOULD TESTIMONIAL - The Western Mail". Abel Nadin. 1897-03-15. Cyrchwyd 2020-08-31.