Friedrich Schlegel
Ysgolhaig, beirniad llenyddol, ieithegwr, ac ysgrifwr Almaenig oedd Karl Wilhelm Friedrich Schlegel (10 Mawrth 1772 – 12 Ionawr 1829).[1]
Friedrich Schlegel | |
---|---|
Portread o Friedrich Schlegel gan Franz Gareis (1801). | |
Ganwyd | 10 Mawrth 1772 Hannover |
Bu farw | 12 Ionawr 1829, 11 Ionawr 1829 Dresden |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Hannover, Etholaeth Hannover |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, cyfieithydd, llenor, nofelydd, beirniad llenyddol, academydd, bardd, golygydd, hanesydd, damcaniaethwr llenyddol, damcaniaethwr celf, hanesydd celf |
Cyflogwr |
|
Arddull | traethawd |
Mudiad | Rhamantiaeth, German Romanticism, Romantic literature |
Tad | Johann Adolf Schlegel |
Priod | Dorothea von Schlegel, Dorothea von Schlegel |
Gwobr/au | Urdd Goruchaf Crist |
Ganed ef yn Hannover, Etholyddiaeth Hannover, a oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Astudiodd y gyfraith a'r clasuron yn Göttingen a Leipzig. Mae ei weithiau creadigol cynnar yn cynnwys y nofel grasboeth Lucinde (1799) a'r drasiedi Alarcos (1802).
Gyda'i frawd hŷn August Wilhelm Schlegel golygydd y cyfnodolyn Das Athenäum (1798–1800), a fu'n cyhoeddi gwaith Novalis ac eraill. Bu ysgrifau a mân-feirniadaeth Friedrich Schlegel yn Das Athenäum yn ei osod ar flaen y gad yn y mudiad Rhamantaidd Almaenig.
Mae Friedrich Schlegel yn nodedig am ei astudiaethau o hanes llenyddol, yn enwedig Geschichte der alten un neuen Literatur (1815), a'i waith ar yr iaith Sansgrit a'i barddoniaeth, Sprache und Weisheit der Inder (1808), a fu'n gyfraniad cynnar pwysig i astudiaethau Dwyreiniol yn Ewrop.
Bu farw Friedrich Schlegel yn Dresden, Teyrnas Sachsen, yn 56 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Friedrich von Schlegel. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Tachwedd 2021.