Gŵr Pen y Bryn
Gŵr Pen y Bryn (teitl llawn: Gŵr Pen y Bryn: Deffroad Enaid Cyffredin. Stori o gyfnod y Rhyfel Degwm) yw unig nofel y llenor amryddawn Edward Tegla Davies. Fe'i cyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab yn Wrecsam, 1923.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Lleolir y nofel mewn pentref bach gwledig yng ngogledd-ddwyrain Cymru adeg Rhyfel y Degwm. Er bod iddi gefndir hanesyddol a chymdeithasol pwysig, stori am "ddeffroad enaid cyffredin", sef gŵr (meistr) fferm Pen-y-Bryn ydyw.
Ystyrir Gŵr Pen-y-Bryn yn glasur bach gan sawl beirniad; "un o nofelau mwyaf trawiadol ei gyfnod" yw barn Bobi Jones amdano.[1]
LlyfryddiaethGolygu
- ''Gŵr Pen y Bryn (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1923).
- Argraffiad newydd: Cyfres Clasuron Hughes: Gŵr Pen y Bryn. ISBN 9780852841587
CyfeiriadauGolygu
- ↑ R. M. Jones, Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936, t. 430.