Gŵr y Dolau
Nofel Gymraeg yw Gŵr y Dolau gan William Llewelyn Williams. Cyhoeddwyd y nofel yn wreiddiol yn 1896, a chyhoeddwyd argraffiad newydd yn 2024 gan Melin Bapur.
Clawr fersiwn 2024 gan Melin Bapur | |
Awdur | William Llewelyn Williams |
---|---|
Cyhoeddwr | Hughes a'i Fab (1896) Melin Bapur (2024) |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Pwnc | Nofelau Cymraeg |
Argaeledd | Mewn print |
Disgrifiad Byr
golyguMae'r nofel yn disgrifio ystod o gymeriadau mewn tref yn Nyffryn Tywi ar troad yr ugeinfed ganrif; gan gynnwys Dafi Jones, "Gŵr y Dolau", sy'n ildio i demtasiwn alcohol; er bod Nat y Gof yn ymddangos llawer mwy, ac mae'r nofel hefyd yn dilyn Mr. Rowlands y Curad sydd mewn cariad gyda Gladys, merch brydferth sy'n aros gyda'i modryb.
Enghraifft hwyr yw'r llyfr o nofel ddirwestol. Dilyniant o fath yw'r nofel i nofel flaenorol Williams, Gwilym a Benni Bach, ac mae Benni bach (fel oedolyn) yn ymddangos mewn un pennod; fodd bynnag ar gymeriadau newydd mae'r nofel yn canolbwyntio gan fwyaf.
Mae'r mwyafrif helaeth o ddeialog y nofel wedi'i ysgrifennu yn nhafodiaith Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin.