G. E. Moore
Athronydd o Loegr oedd G. E. Moore (4 Tachwedd 1873 – 24 Hydref 1958) oedd yn ddylanwadol yn athroniaeth Realaidd ac yn aelod o'r grŵp Bloomsbury. Ynghyd â Bertrand Russell a Ludwig Wittgenstein, fe drodd Goleg y Drindod, Caergrawnt yn ganolfan i athroniaeth ddadansoddol yn hanner cyntaf yr 20g.
G. E. Moore | |
---|---|
Ganwyd | 4 Tachwedd 1873 Norwood Uchaf |
Bu farw | 24 Hydref 1958 Caergrawnt |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Addysg | Uwch Ddoethor |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | athronydd, academydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Ethics, Principia Ethica |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod, Cymrawd yr Academi Brydeinig |
Cafodd ei eni a'i fagu yn ne Llundain. "George Edward" oedd ei enwau cyntaf, ond nid oedd yn hoff o'r rhain a fe wrthododd eu defnyddio. Yn ddiweddarach, cafodd ei alw'n Bill gan ei wraig.[1] Astudiodd Glasuron yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, ac ychwanegodd athroniaeth at ei radd wedi iddo ymgyfeillio â Bertrand Russell a J. M. E. McTaggart. Enillodd gymrodoriaeth yng Ngholeg y Drindod ym 1898, ac astudiodd yno hyd 1904.
Cyhoeddodd ei brif waith ar foeseg, Principia Ethica, ym 1903. Trigodd am gyfnod yng Nghaeredin a Llundain cyn iddo ddychwelyd i Gaergrawnt ym 1911. Addysgodd fel athro athroniaeth o 1925 hyd 1939. O 1921 hyd 1944 Moore oedd golygydd y cyfnodolyn athroniaeth Mind.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "George Edward Moore", Stanford Encyclopedia of Philosophy (Prifysgol Stanford). Adalwyd ar 3 Chwefror 2018.