Gaborone
Prifddinas a dinas fwyaf Botswana, yn ne-orllewin Affrica yw Gaborone (hen enw: Gaberones). Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y wlad yn agos iawn i'r ffin â thalaith Transvaal yng Ngweriniaeth De Affrica. Symudwyd y brifddinas i Gaborone o ddinas Mafeking yn 1965. Lleolir rhan o Brifysgol Botswana a Gwlad Swasi yno.
Math | dinas fawr, endid tiriogaethol gweinyddol, dinas ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Kgosi Gaborone ![]() |
Poblogaeth | 235,884 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | Central Africa Time, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | South-East District ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 169 ±1 km² ![]() |
Uwch y môr | 1,014 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 24.6569°S 25.9086°E ![]() |
BW-GA ![]() | |
![]() | |
Mae'r ddinas yn gorwedd i'r dwyrain o anialwch mawr y Kalahari mewn ardal gymharol ffrwythlon. Ceir llyn mawr ar gyrion y ddinas. Mae rheilffordd yn cysylltu'r ddinas â gogledd-ddwyrain y wlad a dinas Bulawayo yn Simbabwe, ac â Johannesburg a Pretoria i'r de dros y ffin yn Ne Affrica.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b8/Gaborone_25.92305E_24.68895S.jpg/250px-Gaborone_25.92305E_24.68895S.jpg)