Cŷn

(Ailgyfeiriad o Gaing)

Erfyn torri â llafn metel miniog yw cŷn (yng Ngogledd Cymru;[1] lluosog: cynion, cynau)[2] neu gaing (yn Ne Cymru;[1] geingion, geing(i)au)[3] a ddefnyddir mewn gwaith pren a gwaith maen. Caiff ei ddal yn y llaw a'i daro â morthwyl i drin neu dorri defnydd.

Cynion o Oes Newydd y Cerrig (tua 4100–2700 CC) a ddarganfuwyd yng ngogledd yr Almaen.

Gwneid y cynion cyntaf o garreg fflint tua 8000 CC. Defnyddiodd yr hen Eifftiaid gynion copr ac efydd i weithio pren a charreg feddal. Gwneir y mwyafrif o gynion heddiw o ddur.[4]

Cynion coed

golygu
 
Cŷn haearn ar gyfer gwaith pren.

Dwy ffurf sydd i'r mwyafrif o o gŷn coed: y cŷn ffyrf, a'r cŷn pefel. Croestoriad petryalog syml sydd gan lafn y cŷn ffyrf, ac felly mae'n addas ar gyfer gwaith trwm. Ffurf gryfach o'r cŷn ffyrf yw'r cŷn mortais, gyda llafn dwfn, sgwâr sy'n addas wrth dorri uniadau mortais. Erfyn amlbwrpas yw'r cŷn pefel sy'n addas am waith manwl a thorri pob math o uniadau. Wyneb gydag ymylon sy'n meinháu sydd i un ochr y llafn. Mae'r cŷn hir yn debyg iawn i'r cŷn pefel, ond yn llawer hirach. Er y gellir naddu pren gydag unrhyw fath o gŷn coed, mae hyd y llafn hwn yn ei wneud yn haws i'w reoli gan law.[5]

Gwneid carnau cynion o bren yn hanesyddol. Gwneir y mwyafrif o garnau modern o ddefnyddiau annrylliadwy, er enghraifft seliwlos asetad, sy'n gwrthsefyll ergydiau'r morthwyl. Weithiau ceir cap metel ar ben y carn i gryfháu'r cŷn yn fwy. Gwneir nifer o garnau o rwber neu blastig sy'n teimlo'n esmwyth yn y llaw a hefyd yn lleddfu ysgytiad yr ergyd.[5]

Cynion maen

golygu
Dyn yn torri carreg balmant gyda chŷn bras.

Oherwydd natur ei waith, mae'n rhaid i gŷn y saer maen fod yn fwy o faint ac yn drymach na chŷn y saer coed. Caiff ei daro gan forthwyl cnap yn erbyn cerrig, briciau, a defnyddiau caled megis teils. Dau brif fath o gŷn sydd mewn gwaith maen: y cŷn bras neu'r brasholltwr, a'r cŷn caled. Llafn byr, llydan sydd gan y cŷn bras, ac yn aml mae ganddo giard plastig i amddiffyn y llaw rhag ergydiau sy'n methu'r pen. Defnyddir i daro rendrad oddi ar wal ac i dorri briciau a darnau maen yn hanner. Mae lled y holltwr yn ei alluogi i dorri briciau heb eu malu'n ddarnau mân. Ffurf gul o'r cŷn bras yw'r cŷn caled. Mae siâp main y llafn yn addas wrth dynnu morter oddi ar wal gerrig, ac i mynd i mewn i'r bylchau rhwng friciau.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [chisel].
  2.  cŷn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Hydref 2014.
  3.  gaing. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Hydref 2014.
  4. (Saesneg) chisel. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Awst 2016.
  5. 5.0 5.1 5.2 (Saesneg) Julian Cassell a Peter Parham. DIY: Know-how with show-how (Llundain, Dorling Kindersley, 2013), t. 38–9.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: