Galerius
Caius Galerius Valerius Maximianus (c. 250 – 5 Mai 311) oedd ymerawdwr Rhufain o 305 hyd 311.
Galerius | |
---|---|
Ganwyd | Galerius Maximinus 250 Dacia |
Bu farw | 5 Mai 311 Serdica |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd, llywodraethwr |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig |
Adnabyddus am | Edict of Toleration by Galerius |
Tad | Unknown, Diocletian |
Mam | Romula |
Priod | Galeria Valeria |
Plant | Valeria Maximilla, Candidianus, Maximinus Daza |
Perthnasau | Maximinus Daza |
Yn enedigol o Dacia, gwasanaethodd Glarius yn y fyddin dan yr ymerodron Aurelian a Probus, a chredir iddo ddod yn bennaeth Gard y Praetoriwm dan Diocletian. Dewisodd Diocletian ef fel "Cesar" neu is-ymerawdwr y rhan ddwyreiniol (Pars Orientalis) o'r ymerodraeth yn 293. Er mwyn gael ei benodi i'r swydd yma bu raid i Galerius ysgar ei wraig a phriodi Galeria Valeria, merch Diocletian. Ei dasg gyntaf oedd gwarchod ffin Afon Donaw rhag y Sarmatiaid yn 294. Yn 297 bu raid iddo amddiffyn ffin Afon Ewffrates yn erbyn y Parthiaid. Gorchfygwyd ef yn ei frwydr gyntaf yn erbyn y Parthiaid yn Caras, ond wedi derbyn atgyfnerthiad o'r Balcanau gallodd orchfygu brenin Parthia, Narses, yn Armenia. Gallodd gipio dinas Ctesiphon ac yn 298 Narses gofynnodd Narses am heddwch. Dychwelwyd Mesopotamia i'r ymerodraeth a hyd yn oed rhywfaint o diriogaeth i'r dwyrain o Afon Tigris, y pellaf i'r dwyrain i'r Ymerodraeth Rufeinig ymestyn erioed.
Pan ymddeolodd Diocletian yn 305 daeth Galerius yn "Augustus" y dwyrain yn ei le, gyda Constantius Chlorus yn Augustus y gorllewin. Cymerodd Galerius Severus II (306-307) fel Cesar.
-
Delwedd Galerius ar ddarn arian
-
Bwa Galerius yn Thesalonica, Gwlad Groeg
-
Ochr ddwyreiniol Bwa Galerius yn Thesalonica
Rhagflaenydd: Diocletian a Maximianus |
Ymerawdwr Rhufain 305 – 311 gyda Constantius Chlorus |
Olynydd: Licinius a Cystennin I |