Sarmatiaid
Roedd y Sarmatiaid, Sarmatae neu Sauromatae (Hen Roeg: Σαρμάται, Σαυρομάται) yn gydffederasiwn enfawr o bobl o dras Iranaidd hynafol[1][2] a ymfudodd o Ganolbarth Asia i ardal Mynyddoedd yr Wral tua'r 5 CC. Ceir cyfeiriad atynt gan Herodotus yn y cyfnod yma.
Enghraifft o'r canlynol | grwp ethnig hanesyddol |
---|---|
Math | llwyth |
Rhan o | Pobl o Iran |
Yn cynnwys | Aorsen, Iazyges, Siraces, Alans, Roxolani, Saka |
Gwladwriaeth | Sarmatia, Sgythia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pan oedd eu tiriogaeth ar ei fwyaf, roedd yn ymestyn o Afon Fistula hyd aber Afon Donaw ac o wlad yr Hyperboreaid yn y gogledd hyd at y Môr Du a Môr y Caspian a'r ardal rhyngddynt cyn belled a Mynyddoedd y Cawcasws. Mae'r darganfyddiadau mwyaf nodedig o feddau ac olion eraill wedi eu gwneuf yn Krasnodar Krai yn Rwsia.
Roedd y Sarmatiaid yn perthyn yn agos i'r Scythiaid. Bu cryn lawer o ymladd rhyngddynt hwy a'r Ymerodraeth Rufeinig, ac yn y 4g gwnaethant gynghrair a'r Hyniaid.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Zakiev M. Z., Problems of the history and language, Who are the Alans?, Kazan, 1995
- ↑ William Hearth, ORMUS: Timeline of Ancients, 2007, s.174