Roedd y Parch Gareth H. Davies (19274 Mawrth 2005) yn bregethwr ac yn weinidog.[1]

Gareth H. Davies
Ganwyd1927 Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 2005 Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd Edit this on Wikidata

Cefndir a blynyddoedd cynnar golygu

Fe'i ganwyd yng Ngorslas yn Sir Gaerfyrddin ac âi'r teulu i gapel Bethel, Cross Hands. Dechreuodd weithio fel glowr yn bedair ar ddeg oed, ac yna'n ddiweddarach rhoes ei fryd ar fynd i'r weinidogaeth. Ar ôl mynd i Goleg Trefeca yn 1950 gwnaeth ffydd bersonol fywiog rhai o'i gydfyfyrwyr argraff ddofn arno, a daeth i fod o'r un perswâd â nhw; gan bwyso yn llwyr ar ras Duw yn hytrach na'i weithredoedd ei hunan. Roedd hwn yn gyfnod o gyffro ysbrydol yng Nghymru, ac arweiniodd hyn at sefydlu Mudiad Efengylaidd Cymru, mudiad y bu Gareth Davies yn arweinydd blaenllaw o'i fewn.

Gyrfa yn y Weinidogaeth golygu

Yn 1957 priododd Eunice Morris, a chael ei ordeinio. Ar ôl ei ordeinio treuliodd ei oes weinidogaethol o fewn Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Bu'n weinidog ar eglwysi Soar, Pontardawe a Siloh, Gwauncaegurwen (1957-1968); Triniti a Glenala, Llanelli (1968-1981) (gan ychwanegu Bryn Seion, Llangennech at yr ofalaeth yn ystod y cyfnod hwn), ac yna Bethani, Rhydaman, Capel Newydd y Betws ac Elim Tir-y-dail o 1981 hyd at ei ymddeoliad yn 1994.

Ffynonellau golygu

  • Y Cylchgrawn Efengylaidd, Cyfrol 42, rhif 1, Gwanwyn 2005, Ysgrifau coffa gan Eifion Evans, Meirion Thomas a Rhys Llwyd (ŵyr i Gareth Davies)).

Cyfeiriadau golygu