Gors-las

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Gors-las[1] neu Gorslas.[2] Saif y pentref ar briffordd yr A476 i'r gogledd-orllewin o dref Rhydaman. Saif yn y maes glo carreg, ac arferai'r diwydiant glo fod yn bwysig iawn yma.

Gors-las
Mathpentref, cymuned, plwyf Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,066 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,656.54 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8042°N 4.0747°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000504 Edit this on Wikidata
Cod OSSN570137 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Heblaw pentref Gorslas, mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Cefneithin, Capel Seion, Foelgastell a Dre-fach. Yn y gymuned yma hefyd mae Llyn Llech Owain, a gysylltir a chwedlau am Owain Lawgoch. Cynhaliwyd cyfarfod mawr ar lan y llyn yn 1843 yn ystod Helyntion Beca.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[4]

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,716, gyda 78.61% yn medru rhywfaint o Gymraeg.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Gors-las (pob oed) (4,066)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Gors-las) (2,523)
  
64.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Gors-las) (3211)
  
79%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Gors-las) (684)
  
39.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 25 Chwefror 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]