Ysbiwr a Chymro Cymraeg o Ynys Môn oedd Gareth Williams (26 Medi 1978 – tua 16 Awst 2010) a oedd yn gweithio i GCHQ Llywodraeth y DU ac i MI6. Canfuwyd ei gorff ar y 15 Awst, 2010 mewn bag cadw'n-heini[1] mewn "tŷ saff" o eiddo'r MI5 yn Pimlico, Llundain, a hynny o dan amgylchiadau amheus iawn.[2]

Gareth Williams
Ganwyd26 Medi 1978 Edit this on Wikidata
Y Fali Edit this on Wikidata
Bu farw23 Awst 2010 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmathemategydd, gwas sifil Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Model o weithle Gareth Williams, sef yr Adran "Glustfeinio" yn y GCHQ yn Cheltenham

Cefndir

golygu

Cafodd Gareth ei eni yn 1978 a gwelwyd yn fuan fod ganddo allu mathemategol anghyffredin o uchel, a dechreuodd astudio cwrs gradd allanol rhan amser ym Mhrifysgol Bangor tra roedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Bodedern. Dywedir ei fod yn feiciwr arbennig o gryf a'i fod yn ddyn preifat iawn.[3] Erbyn iddo fod yn 17 oed roedd wedi derbyn Gradd Dosbarth Cyntaf mewn mathemateg. Cred y teulu mai ymdrin â chodau cyfrin yr oedd yn ei waith pob-dydd yn Cheltenham.

Marwolaeth amheus a thrist

golygu

Mae'n ymddangos fod glanhau a chlirio tystiolaeth wedi digwydd yn y fflat lle canfuwyd corff Gareth yn y bag. Mae'r drws, bellach, wedi'i newid, a chliriwyd olion bysedd mewn dull systematig a roedd y DNA a ganfuwyd ar law Gareth wedi ei drosglwyddo mewn camgymeriad o wyddonydd fforensig. Ymddiheurodd y cwmni LGC wedi i un o'i staff fwydo gwybodaeth anghywir i'w gyfrifiadur.[4]

Dywedodd Vincent Williams, ar ran Heddlu'r Metropolitan, fod yr arbenigwyr yn gwbwl gytûn y byddai'n gwbwl amhosibl i Gareth fod wedi cloi'r bag.

Ar y 30 Mawrth, 2012 dywedodd y Crwner y Dr Fiona Fox, ei bod yn bwriadu dilyn pob trywydd a phob tystiolaeth i ble bynnag roedd yn arwain.[5]

Un o'r ffeithiau a ddaeth allan yn y cwest i'w farwolaeth ym Mai 2012 oedd methiant MI6 â throsglwyddo llawer o eiddo Gareth Williams i Scotland Yard. Buont hefyd yn archwilio cyfryngau electronig Gareth heb ddweud wrth yr heddlu.[6]

Ar 12 Tachwedd 2013 dywedodd Anthony O’Toole, cyfreithiwr y teulu, ei fod wedi'i atal rhag gofyn rhai cwestiynau i asiant MI6 ynglŷn â sut roedd MI6 wedi mynd i mewn i'r fflat; “I was told it was contrary to national security.”[7]

Datgelwyd nad oedd dim DNA nag olion bysedd Gareth ar glo'r bag, y bag ei hun na'r bath.[8]

Ymchwiliad

golygu

Ar 13 Tachwedd 2013, yn dilyn ymchwiliad 18 mis, dywedodd y Crwner Fox, “I'm satisfied that on the balance of probabilities that Gareth was killed unlawfully”. Yn ôl Martin Hewitt o Scotland Yard, fodd bynnag "it is a more probable conclusion that there was no other person present when Gareth died," ac mai "damwain" oedd ei farwolaeth, yn fwy na thebyg.[9]

Cafodd ei gladdu ym Mhorthaethwy ar 26 Medi, 2010.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Body of MI6 worker Gareth Williams 'locked in bag'". BBC News. 1 Medi 2010. Cyrchwyd 1 Medi 2010.
  2. Gordon Rayner, Chief Reporter "Was MI6 spy-in-a-bag Gareth Williams killed by 'secret service dark arts'?", The Guardian, 30 Mawrth 2012
  3. Vikram Dodd, et al "MI6 worker murdered, stuffed in a bag and dumped in a bath", The Guardian, 25 Awstt 2010
  4. Thomas, Gordon; Sawer, Patrick (25 Medi 2010). "FBI joins investigation into MI6 spy's death". The Daily Telegraph. Llundain.
  5. Gordon Rayner, Chief Reporter "Was MI6 spy-in-a-bag Gareth Williams killed by 'secret service dark arts'?", The Telegraph, 30 Mawrth 2012
  6. "Cwest ysbiwr - 'MI6 wedi ymyrryd â thystiolaeth", Golwg 24 (34): 8, 2012
  7. Gwefan The Mirror; gohebydd: Steve Robson; adalwyd 14 Tachwedd 2013
  8. Gwefan y BBC; Adroddiad 13 Tachwedd gan Danny Shaw; adalwyd 14 Tachwedd 2013.
  9. Gwefan The Mirror; gohebydd: Steve Robson; adalwyd 14 Tachwedd 2013