Garn Saethon
Bryn ar benrhyn Llŷn a goronir gan fryngaer yw Garn Saethon (cyfeiriad grid SH298337). Ei uchder yw tua 200 medr.
Math | caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.8741°N 4.5304°W |
Cod OS | SH29813371 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN408 |
Bryngaer
golyguBryngaer fechan yw Garn Saethon, llawer llai na bryngaer Carn Fadryn tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin yr ochr draw i gwm afon Horon, un o ledneintiau afon Soch, sy'n gorwedd rhyngddynt. Mae'n gorwedd ar ben copa gogleddol y bryn ac yn dyddio o Oes yr Haearn.[1]
Mae yn nhiriogaeth y Gangani, llwyth Celtaidd a drigai yn Llŷn yn Oes yr Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)