Garry Kasparov yn erbyn Deep Blue

Yn 1996 ac 1997 chwaraewyd dwy gêm rhwng chwaraewr gwyddbwyll cryfa'r byd ar y pryd, Garry Kasparov a'r cyfrifiadur Deep Blue oedd yn eiddo i gwmni IBM. Cynhaliwyd y gêm gyntaf yn Philadelphia, Pennsylvania yn Chwefror 1996, gyda Kasparov yn ennill o 4–2 drwy golli un, cael dwy gêm gyfartal ac ennill tair.

Garry Kasparov yn 2007

Cyfarfu'r ddau y flwyddyn ganlynol yn Efrog Newydd, a'r tro hwn enillodd Deep Blue o 3½–2½. Wedi iddo golli honnodd Garry Kasparov bod IBM yn ymyrryd â rhaglenni Deep Blue yn ystod y gêm - rhywbeth oedd yn groes i'r rheolau. Er iddyn nhw wadu hyn gwrthododd IBM gais Kasparov i gael gweld cofnodion Deep Blue, ac er i Kasparov eu herio am gêm arall gwrthodwyd y cynnig hwn hefyd gan IBM. Datgymalwyd Deep Blue yn fuan wedyn.

Gêmau 1996
Gêm # Gwyn Du Canlyniad Sylw
1 Deep Blue Kasparov 1–0
2 Kasparov Deep Blue 1–0
3 Deep Blue Kasparov ½–½ Y ddwy ochr yn cytuno i dderbyn gêm gyfartal
4 Kasparov Deep Blue ½–½ Y ddwy ochr yn cytuno i dderbyn gêm gyfartal
5 Deep Blue Kasparov 0–1 Cynigodd Kasparov gêm gyfartal wedi symudiad 23.
6 Kasparov Deep Blue 1–0
Canlyniad: Kasparov – Deep Blue: 4–2
Gêmau 1997
Gêm # Gwyn Du Canlyniad Sylw
1 Kasparov Deep Blue 1–0
2 Deep Blue Kasparov 1–0
3 Kasparov Deep Blue ½–½ Y ddwy ochr yn cytuno i dderbyn gêm gyfartal
4 Deep Blue Kasparov ½–½ Y ddwy ochr yn cytuno i dderbyn gêm gyfartal
5 Kasparov Deep Blue ½–½ Y ddwy ochr yn cytuno i dderbyn gêm gyfartal
6 Deep Blue Kasparov 1–0
Canlyniad: Deep Blue – Kasparov: 3½–2½

Dolenni allanol golygu