Cyn bêl-droediwr gyda'r Barri Caerfyrddin a Llanelli yw Gary Lloyd.

Gary Lloyd
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnGary Lloyd
Dyddiad geni (1972-03-26) 26 Mawrth 1972 (52 oed)
Man geniAbertawe, Cymru
SafleAmddiffynnwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1992–1995Llanelli92(34)
1995-2003Y Barri282(42)
2003-2004Casnewydd
2004-2005Caerfyrddin33(4)
2005-2006Llanelli14(2)
2006Caerfyrddin15(4)
2006-2009Llanelli73(2)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 7 Chwefror 2016 (UTC).
† Ymddangosiadau (Goliau).

Chwaraeodd Lloyd dros 500 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru gan ennill y Bencampwriaeth wyth gwaith yn ogystal â chodi Cwpan Cymru ar bedair achlysur a Chwpan y Gynghrair ar chwe achlysur.

Er cael treial gydag Abertawe, dechreuodd Lloyd ei yrfa’n chwarae i’w glwb lleol, Llanelli cyn ymuno â'r Barri yn Uwch Gynghrair Cymru ym 1994[1]

Chwaraeodd 282 o gemau i’r Barri rhwng 1994 a 2003, sef record ymddangosiadau’r clwb yn yr Uwch Gynghrair, gan ennill y Bencampwriaeth saith o weithiau mewn wyth tymor euraidd gyda’r clwb, a chipio Cwpan Cymru a Chwpan y Gynghrair bedair gwaith yr un.

Yn dilyn problemau ariannol y clwb, ymunodd â Chasnewydd am dymor ond dychwelodd i Uwch Gynghrair Cymru yn 2004-05 gyda Chaerfyrddin gan ennill Cwpan y Gynghrair am y pumed tro a chyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru yn 2004-05. Daeth awr fwyaf Lloyd i Gaerfyrddin yng Nghwpan UEFA, pan sgoriodd ddwywaith wrth guro Longford Town 5-1 ym muddugoliaeth gynta’r clwb yn Ewrop.[2]

Yn 2006, dychwelodd Lloyd i Lanelli gan ennilly Bencampwriaeth am yr wythfed tro a Chwpan y Gynghrair am y chweched tro yn ei yrfa.

Gwnaeth 29 o ymddangosiadau llawn mewn gemau Ewropeaidd i’r Barri, Caerfyrddin a Llanelli a Lloyd hefyd yw’r unig chwaraewr i gael ei alw i garfan ryngwladol Cymru tra’n dal i chwarae’n y gynghrair genedlaethol, a hynny i wynebu Gwlad Belg yn 1997.[3]

Ym mis Hydref 2012 cafodd Lloyd ei urddo'n aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gary Lloyd". welsh-premier.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-01. Cyrchwyd 2016-02-07.
  2. "Carmarthen 5-1 Longford". BBC Sport.
  3. 3.0 3.1 "Oriel yr Anfarwolion: Gary Lloyd". Sgorio. s4c.cymru/sgorio.