Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru

Cofnod swyddogol o chwaraewyr pêl-droed nodedig Uwch Gynghrair Cymru yw Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru. Fe'i sefydlwyd yn 2012 er mwyn dathlu 20 mlynedd ers sefydlu Uwch Gynghrair Cymru ym 1992. Crewyd yr Oriel ar y cyd rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a rhaglen Sgorio, darlledwyr swyddogol y gynghrair ar S4C[1][2] gyda'r 20 aelod cyntaf yn cael eu datgelu ar Sgorio yn ystod tymor 2012-13.

Ers i'r 20 aelod gwreiddiol cael eu cyflwyno, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wediu ychwanegu aelodau'n achlysurol.

Aelodau'r Oriel golygu

Dyddiad Enw Sylwadau
22 Medi 2012 Marc Lloyd-Williams[3] Lloyd-Williams yw prif sgoriwr yn holl hanes Uwch Gynghrair Cymru gyda 319 gôl mewn 468 o ymddangosiadau rhwng 1992 a 2011 ac yn brif sgoriwr holl gynghreiriau Ewrop yn ystod tymor 2001-02
20 Hydref 2012 Colin Reynolds[4] Reynolds oedd â'r record am chwarae’r nifer fwyaf o gemau’n Uwch Gynghrair Cymru gyda 528 o gemau rhwng 1992 a 2009. Chwaraeodd am dros ddegawd i'r Drenewydd cyn symud i Gaersws ac Aberystwyth.
20 Hydref 2012 Andrew Thomas[5] Chwaraeodd Thomas dros 400 o gemau i Gaersws gan arwain y tîm yn Nhlws Intertoto yn 2002 ac i fuddugoliaeth yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair ar dair achlysur.
27 Hydref 2012 Gary Lloyd[6] Chwaraeodd Lloyd dros 500 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru i'r Barri, Caerfyrddin a Llanelli gan ennill y Bencampwriaeth wyth gwaith yn ogystal â chodi Cwpan Cymru ar bedair achlysur a Chwpan y Gynghrair ar chwe achlysur.
24 Tachwedd 2012 Tomi Morgan[7] Chwaraeodd Morgan i Aberystwyth yn nhymor cyntaf y Gynghrair ac enillodd Gwpan Cymru gyda Llansantffraid cyn ymddeol rhag chwarae a rheoli clybiau Caerfyrddin, Rhaeadr, Y Trallwng, Porthmadog ac Aberystwyth.
23 Ionawr 2013 Ken McKenna[8] Chwaraeodd McKenna i Gonwy a Bangor cyn symud i chwarae, ac yna rheoli Y Seintiau Newydd. Llwyddodd i arwain Y Seintiau i dair Pencampwriaeth yn olynol yn 2004-05, 2005-06 a 2006-07 yn ogystal â chodi Cwpan Cymru yn 2005.
23 Ionawr 2013 Lee Trundle[9] Dechreuodd Trundle ei yrfa bêl-dreod gyda Y Rhyl cyn symud i Wrecsam. Daeth y chwaraewr cyntaf o Uwch Gynghrair Cymru i fynd ymlaen i symud am £1miliwn pan ymunodd â Bristol City o Abertawe yn 2007 a dychwelodd i'r Uwch Gynghrair yng Nghymru gyda Castell Nedd yn 2010.
3 Mawrth 2013 Neville Powell[10] Mae Powell yn gysylltiedig â'r Gynghrair ers y tymor cyntaf un ym 1992-93 pan roedd yn chwaraewr gyda Bangor cyn symud i fod yn reolwr ar Cei Connah. Dychwelodd i Fangor yn 2007 a llwyddodd i godi Cwpan Cymru yn 2008, 2009 a 2010 cyn ennill Pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru yn 2011.
12 Mawrth 2013 Rhys Griffiths[11] Un o sgorwyr mwyaf toreithiog Uwch Gynghrair Cymru, mae Griffiths wedi rhwydo dros 250 o goliau i Gwmbrân, Hwlffordd, Caerfyrddin, Llaneli ac Aberystwyth a llwyddodd i ennill Esgid Aur Uwch Gynghrair Cymru am saith mlynedd o'r bron rhwng 2006 a 2012.
16 Mawrth 2013 Steve Evans[12] Yn un o hoelion wyth Y Seintiau Newydd llwyddodd Evans i arwain y clwb i’r dwbl yn 2004-05. Yn 2006 cafodd ei arwyddo gan Wrecsam cyn mynd ymlaen i enillodd 7 cap dros dîm cenedlaethol Cymru cyn dychwelyd i Neuadd y Parc yn 2009.
25 Mawrth 2013 Timmy Edwards[13] Chwaraeodd Edwards dros 400 o gemau mewn 16 tymor yn Uwch Gynghrair Cymru gan ennill y Bencampwriaeth gyda'r C.P.D. Y Seintiau Newydd a'r Rhyl. Cafodd ei ethol yn Chwaraewr y Tymor wrth i'r Rhyl ennill y trebl yn 2003-04.
7 Ebrill 2013 Nigel Adkins[14] Roedd Adkins yn chwaraewr-reolwr ar dîm Bangor enillodd Uwch Gynghrair Cymru ym 1993-94 a 1994-95 a chael ei enwi'n Reolwr y Tymor ddwywaith. Yn 2012 daeth y person cyntaf i reoli yn Uwch Gynghrair Cymru ac Uwch Gynghrair Lloegr wrth iddo arwain Southampton i ddyrchafiad.
8 Ebrill 2013 Mark Ovendale[15] Ymunodd Ovendale â’r Barri ym 1995 a daeth yn rhan allweddol o’r tîm enillodd dair Pencampwriaeth yn olynol yn ogystal â Chwpan Cymru ym 1997.Thra gyda’r clwb, aeth Ovendale am dros fil o funudau yn y gynghrair heb ildio gôl, record sy’n parhau hyd heddiw.
8 Ebrill 2013 Gary Barnett[16] Roedd Barnett yn rhan allweddol o dîm Y Barri pan enillwyd Pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf yn 1995-96 ac ar ôl iddo gael ei benodi’n chwaraewr-reolwr yn 1996 aeth ymlaen i ennill tair Pencampwriaeth arall a phump Cwpan Cymru.
13 Ebrill 2013 Eifion Williams[17] Williams sydd â'r record am y ffi trtosglwyddo uchaf rhwng dau glwb yn Uwch Gynghrair Cymru pan symudodd o Gaernarfon i'r Barri am £25,000 yn 1997. Rhwydodd 68 o goliau mewn 60 gêm ii'r Barri gan ennill yr Esgid Aurt ddau dymor yn olynol cyn symud i chwarae i Torquay, Hartlepool a Wrecsam.
20 Ebrill 2013 Tony Wilcox[18] Wilcox oedd rheolwr Cwmbrân gipiodd Pencampwriaeth cyntaf Cynghrair Genedlaethol Cymru ym 1992-93. Llwyddodd hefyd i arwain Cwmbrân i rownd derfynol Cwpan Cymru ddwywaith ac i Ewrop ar bump achlysur gan ddod y cvlwb Cymreig cyntaf, a dim ond yr ail drwy Ewrop, i gystadlu ym mhob un o bedair cystadleuaeth Uefa.
26 Ebrill 2013 Chris Summers[19] Mae Summers yn un o brif sgorwyr holl hanes Uwch Gynghrair Cymru a llwyddodd i greu record trwy sgorio mewn 11 gêm yn olynol i Gwmbrân lle enillodd yr Esgid Aur yn 2000.
27 Ebrill 2013 Andy Mulliner[20] Dechreuodd Mulliner gyda Llansantffraid gan chwarae dros 200 o gemau i’r clwb rhwng 1993 a 1999. Arbedodd gic o'r smotyn wrth i'r clwb drechu'r Barri i godi Cwpan Cymru ym 1996. Yn 2000, enillodd y Gwpan am yr eildro a hynny gyda Bangor. Mulliner oedd y trydydd chwaraewr i gyrraedd 400 o gemau’n y gynghrair.
14 Mai 2013 Dave Taylor[21] Chwaraeodd Taylor i Gonwy yn nhymor cyntaf y Gynghrair Genedlaethol ond ar ôl symud i Borthmadog yn 1993-94, llwyddodd i gipio gwobr Esgid Aur cylchgrawn L’Equipe fel prif sgoriwr holl gynghreiriau Ewrop gyda 43 o goliau.
21 Mai 2013 Mark Delaney[22] Delaney oedd y chwaraewr cyntaf i gamu ymlaen o chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru i ennill cap i dîm rhyngwladol Cymru pan cafodd ei ddewis i chwarae yn erbyn Y Swistir ym mis Hydref, 1999 dim ond 16 mis ers gadael Caerfyrddin.
21 Mai 2015 Wyn Thomas[23] Thomas sy'n dal y record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau yn Uwch Gynghrair Cymru gan gyrraedd 529 o ymddangosiadau ym mis Ionawr 2015[24] i C.P.D. Tref Aberystwyth, Hwlffordd a Llanelli, lle enillodd y Bencampwriaeth a Chwpan Cymru.
30 Tachwedd 2015 Scott Ruscoe[25] Mae Ruscoe wedi ennill Pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru wyth o weithiau, Cwpan Cymru bedair gwaith a Chwpan y Gynghrair bum gwaith gyda'r Y Seintiau Newydd. Riscoes ydd hefyd yn dal record holl hanes y gynghrair am chwarae gemau’n Ewrop, gyda 30 o ymddangosiadu yng nghystadlaethau Uefa.

Cyfeiriadau golygu

  1. "League's Hall of Fame Launched". Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen marw]
  2. "Enwi anfarwolyn cyntaf Uwch-gynghrair Cymru". Golwg360. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Oriel yr Anfarwolion: Marc Lloyd Williams". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Oriel yr Anfarwolion: Colin Reynolds". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Oriel yr Anfarwolion: Andrew Thomas". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Oriel yr Anfarwolion: Gary Lloyd". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Oriel yr Anfarwolion: Tomi Morgan". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "Oriel yr Anfarwolion: Ken McKenna". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Oriel yr Anfarwolion: Lee Trundle". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Oriel yr Anfarwolion: Neville Powell". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  11. "Oriel yr Anfarwolion: Rhys Griffiths". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  12. "Oriel yr Anfarwolion: Steve Evans". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  13. "Oriel yr Anfarwolion: Timmy Edwards". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  14. "Oriel yr Anfarwolion: Nigel Adkins". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  15. "Oriel yr Anfarwolion: Mark Ovendale". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  16. "Oriel yr Anfarwolion: Gary Barnett". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  17. "Oriel yr Anfarwolion: Eifion Williams". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  18. "Oriel yr Anfarwolion: Tony Wilcox". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  19. "Oriel yr Anfarwolion: Chris Summers". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  20. "Oriel yr Anfarwolion: Andy Mulliner". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  21. "Oriel yr Anfarwolion: Dave Taylor". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  22. "Oriel yr Anfarwolion: Mark Delaney". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  23. "No doubting Thomas commitment to the Black and Greens". Aberystwyth Town. Unknown parameter |published= ignored (help)
  24. "Pwy di Pwy? Wyn Thomas". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  25. "Oriel yr Anfarwolion: Scott Ruscoe". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)