Gafót

(Ailgyfeiriad o Gavotte)

Dawns werin Ffrengig mewn amser cyffredin gan ddechrau ar 3ydd curiad y bar yw'r gafót[1] (Ffrangeg: gavotte). Mae'n tarddu o'r 16g, a daeth yn ffasiynol yn y llys brenhinol yn yr 17g a bu'n boblogaidd yng nghylchoedd uchaf Ffrainc a Lloegr drwy gydol y 18g. Cafodd ei berfformio'n ddawns gymdeithasol a theatraidd yn y 19g, a fe'i ymarferir ar ffurfiau lleol gan y werin mewn rhannau o Ffrainc hyd heddiw.

Darluniad o ddawns gavotte yn Llydaw (1878).

Yn ei gasgliad Terpsichore (1612), mynnai Michael Praetorius i enw'r ddawns darddu o'r gavots, gwerinwyr rhanbarth Pays de Gap yn yr hen Dauphiné. Yn ôl tybiaeth arall daw'r enw o gavaud, gair yn nhafodiaith canolbarth Ffrainc sy'n golygu "coes gam". Disgrifia'r gafót gan Thoinot Arbeau yn Orchésographie (1588) yn debyg i'r banle dwbl: dawns gymdeithasol gan nifer o barau yn ffurfio cylch, a'i cherddoriaeth mewn mesur dyblyg gyda chymalau 4-bar ac 8-bar, ond yn wahanol i'r banle roedd ganddi neidiau ar y stepiau dwbl. Byddai'r parau hefyd, yn eu tro, yn dawnsio yng nghanol y cylch ac yn cusanu'r dawnswyr eraill.[2]

Yn llys Louis XIV fe gyfansoddodd Jean-Baptiste Lully sawl enghraifft, a chafodd y gafót ddylanwad ar gerddoriaeth broffesiynol. Defnyddiwyd cerddoriaeth arddulliedig ar batrwm alawon y gafót yn symudiadau mewn cyfresi offerynnol, gan amlaf yng ngherddoriaeth faróc. Ceir enghreifftiau gan gyfansoddwyr yr 20g, gan gynnwys Prokofiev yn ei Symffoni Glasurol a Schoenberg yn ei Gyfres ar gyfer Cerddorfa Linynnol.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, "gavotte".
  2. Carol G. Marsh, "Gavotte" yn The International Encyclopedia of Dance golygwyd gan Selma Jeanne Cohen (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2003).
  3. Michael Kennedy, Geiriadur Cerddoriaeth Rhydychen (Caernarfon: Curiad, 1998), t. 317. Cyfieithwyd gan Delyth Prys.