Geert Wilders
Gwleidydd o'r Iseldiroedd yw Geert Wilders (ganed 6 Medi 1963) a arweinia'r Blaid dros Ryddid (PVV) ers iddo'i sefydlu yn 2006.
Geert Wilders | |
---|---|
Ganwyd | 6 Medi 1963 Venlo |
Man preswyl | Den Haag |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth yr Iseldiroedd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Iseldiroedd, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Iseldiroedd, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Iseldiroedd, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Iseldiroedd |
Plaid Wleidyddol | Plaid y Bobl am Ryddid a Democratiaeth, Party for Freedom |
Tad | Johannes Henricus Andreas Wilders |
Mam | Maria Anne Ording |
Priod | Krisztina Wilders |
Gwefan | https://www.geertwilders.nl/ |
Ganed ef i deulu dosbarth-canol yn Venlo, yn nhalaith Limburg yn ne-ddwyrain yr Iseldiroedd. Cafodd ei fagu'n Gatholig, a mynychodd yr ysgol uwchradd yn Venlo cyn astudio'r gyfraith gyda'r Brifysgol Agored yn yr Iseldiroedd. Aeth i fyw yn Israel o 1981 a 1983 a theithiodd trwy'r Dwyrain Canol, gan fagu ynddo daliadau gwrth-Islamaidd. Wedi iddo ddychwelyd i'r Iseldiroedd, gweithiodd yn y diwydiant yswiriant iechyd.
Etholwyd Wilders i gyngor dinesid Utrecht ym 1997 fel aelod o Blaid y Bobl dros Ryddid a Democratiaeth (VVD), ac ym 1998 cafodd ei ethol i Dŷ'r Cynrychiolwyr, siambr isaf y ddeddfwrfa genedlaethol. Daeth Wilders yn adnabyddus yn nechrau'r 2000au wrth i elfen o'r cyhoedd yn yr Iseldiroedd droi yn erbyn Islamiaeth, yn enwedig yn sgil llofruddiaeth Theo van Gogh yn 2004 a'r bygythiadau yn erbyn Ayaan Hirsi Ali. Galwodd Wilders am gyfyngu ar y niferoedd o fewnfudwyr Mwslimaidd, a disgrifiai Islam fel "ideoleg ffasgaidd". Derbyniodd hefyd gefnogaeth oddi ar nifer o hen ddilynwyr Pim Fortuyn, a lofruddiwyd yn 2002.
Gadawodd Wilders yr VVD yn 2004, yn rhannol mewn protest yn erbyn cefnogaeth y blaid dros esgyniad Twrci i'r Undeb Ewropeaidd. Sefydlodd y PVV yn Chwefror 2006, ac enillodd y blaid newydd naw sedd yn yr etholiad cyffredinol yn Nhachwedd 2006. Arddelai'r PVV ideoleg genedlaetholgar, gwrth-Islamaidd, ac ewrosgeptigaidd, a chynigodd Wilders bolisïau dadleuol megis gwahardd y Coran a chau mosgiau. Yn 2008, cynhyrchodd y ffilm fer Fitna, sy'n rhyngwau adnodau o'r Coran gyda lluniau o derfysgaeth Islamaidd. Yn ystod ei daith i hyrwyddo'r ffilm, cafodd ei wahardd o'r Deyrnas Unedig yn Chwefror 2009, penderfyniad a ddiddymwyd yn y pen draw. Fe'i cyhuddwyd yn Ionawr 2009 o gyffroi casineb tuag at Fwslimiaid, ac wedi achos llys hir fe'i cafwyd yn ddieuog o'r diwedd ym Mehefin 2011.
Cafodd y PVV rywfaint o lwyddiant etholiadol, gan ennill pedair sedd yn yr etholiad i Senedd Ewrop yn 2009 gyda chyfanswm o 16.9% o'r bleidlais, a 15 sedd yn etholiad cyffredinol 2010. Cytunodd Wilders i gefnogi'r llywodraeth leiafrifol a ffurfiwyd gan y VVD a'r Democratiaid Cristnogol dan y Prif Weinidog Mark Rutte, er nad oedd y PVV yn rhan o'r glymblaid ei hun. Cafodd ei gynghori ar faterion polisi, ond wrth i 2011 mynd rhagddi aeth Wilders yn fwyfwy feirniadol o ymdrechion y llywodraeth i gwtogi ar wariant cyhoeddus. O'r diwedd, yn Ebrill 2012, tynnodd Wilders gefnogaeth ei blaid yn ôl o'r llywodraeth glymblaid, i brotestio'n erbyn y rhaglen gyllidol ddarbodus a gynigwyd gan Rutte. Cwympodd y llywodraeth felly, a chynhaliwyd etholiad ym Medi 2012. Fodd bynnag, trodd yr etholwyr yn erbyn y pleidiau llai, a chollodd y PVV naw o'i seddi. Yn y cyfnod i ddod, canolbwyntiodd Wilders ar gryfhau cysylltiadau â phleidiau ewrosgeptigaidd eraill Ewrop, ac yn Nhachwedd 2013 ffurfiodd gynghrair â'r Front National (FN) yn Ffrainc. Er i'r FN ennill y niferoedd mwyaf o bleidleisiau a seddi Ffrengig yn yr etholiad i Senedd Ewrop ym Mai 2014, daeth y PVV yn drydydd o'r pleidiau Iseldiraidd, gan golli un o'i seddi.
Rhoddwyd Wilders ar brawf am yr eildro yn 2016, yn sgil rali a gynhaliwyd yn 2014 pan gyhoeddodd y byddai'n cwtogi ar y niferoedd o Forociaid a dderbyniwyd i'r Iseldiroedd. Fe'i cafwyd yn euog o ysgogi gwahaniaethu, a sarhau grŵp, ond yn ddieuog o ysgogi casineb. Ni dderbyniodd ddedfryd. Er gwaetha'r euogfarn, daeth y PVV yn ail yn yr etholiad cyffredinol ym Mawrth 2017, gan ennill 20 o seddi. Daeth y PVV yn drydydd yn etholiad 2021, gyda 17 o seddi, ond yn 2023 enillodd y blaid 23.6% o'r bleidlais a 37 o seddi, y blaid fwyaf yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr.[1] Roedd disgwyl iddo geisio ffurfio clymblaid i lywodraethu'r wlad,[1] ond erbyn Mawrth 2024 rhoddai'r gorau i geisio sicrhau swydd y prif weinidog iddo'i hun oherwydd gwrthwynebiad yn ei erbyn gan y pleidiau eraill.[2] O'r diwedd, yng Ngorffennaf 2024, cytunwyd i benodi'r annibynnwr Dick Schoof yn bennaeth ar lywodraeth glymblaid, gan gynnwys y PVV, Plaid y Bobl dros Ryddid a Democratiaeth (VVD), y Contract Cymdeithasol Newydd (NSC), a Mudiad y Ffermwyr a'r Dinasyddion (BBB).[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Paul Kirby ac Anna Holligan, "Dutch election: Anti-Islam populist Geert Wilders wins dramatic victory", BBC (23 Tachwedd 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Tachwedd 2023.
- ↑ (Saesneg) Eva Hartog, "Wilders abandons pursuit of Netherlands PM job", Politico (13 Mawrth 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Gorffennaf 2024.
- ↑ (Saesneg) Anna Holligan, "Dutch government sworn in after Wilders election win", BBC (2 Gorffennaf 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Gorffennaf 2024.