Gei o Warwig
Arwr yn chwedloniaeth ganoloesol y Saeson yw Gei o Warwig neu Guy o Warwick (Saesneg: Guy of Warwick) a fu'n gymeriad poblogaidd yn rhamantau Lloegr a Ffrainc.
Cerflun o Gei o'r 17g yn Ninas Llundain, gydag arysgrif hwyrach yn cyfeirio'r darllenydd at Account of London gan yr hynafiaethydd Cymreig Thomas Pennant | |
Enghraifft o'r canlynol | ffigwr chwedlonol, cymeriad llenyddol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gellir olrhain yr enghraifft hynaf o'r chwedl, mae'n debyg, i lenyddiaeth Hen Ffrangeg y 12g.[1] Ysgrifennwyd y rhamant fydryddol Saesneg Canol oddeutu 1300, yn seiliedig ar fersiwn Eingl-Normaneg wreiddiol a geir mewn 13 llawysgrif. Ymddengys y trosiad Saesneg mewn pedair llawysgrif, yn amrywio o saith mil i ddeuddeng mil o linellau.[2]
Yn ôl y traddodiad Saesneg, mab Siward, distain i Rohand, Dug Warwig, oedd Gei. Traddodir ei gampau wrth geisio ennill serch Fenice, merch iarll. Mae'n achub merch Ymerawdwr yr Almaen, yn brwydro'r Saraseniaid, ac yn lladd y Swltan cyn iddo ddychwelyd i Loegr a chael ei dderbyn gan y Brenin Athelstan, a phriodi Fenice. Mae'n teithio'n ôl i'r Wlad Sanctaidd i gyflawni rhagor o orchestion, ac yn dychwelyd unwaith eto i Loegr i drechu'r cawr Danaidd Colbrand, Buwch Dunsmore, a draig adeiniog yn Northumberland. Mae'n troi'n feudwy ac yn derbyn oddi ar Fenice – heb iddi ei gydnabod, nes iddo anfon ei fodrwy iddi hi o wely ei angau.[2]
Bu'r chwedl yn hynod o boblogaidd am iddi gyfuno arddull buchedd y saint ag antur a brwydro, a châi Gei ei ddyrchafu'n arwr cenedlaethol gan y Saeson fel esiampl o wrthsafiad Athelstan yn erbyn y Daniaid yn y 10g. Cafodd ei dderbyn yn ffigur gwir hanesyddol gan y croniclwyr, ac hawliodd Ieirll Warwig, y teulu Beauchamp, eu bod yn disgyn o Gei. Rhoddai John Lydgate stori Gei ar fydr, tua 1450, a chyfeirir at y cymeriad yn "Byd a Bywyd", cywydd gan Siôn Cent, a'r gerdd Saesneg "Poly-Olbion" gan Michael Drayton. Cenid y chwedl mewn taflenni baledi hyd at y 19g.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Guy Of Warwick (English hero). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2021.
- ↑ 2.0 2.1 Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Oxford University Press, 1995), t. 431.