Siôn Cent

bardd (c.1400)

Bardd a ganai ar bynciau crefyddol a chymdeithasol oedd Siôn Cent (fl. c.14001430/45).[1] Ar lawer cyfrif rhaid ei ystyried yn un o'r mwyaf o Feirdd yr Uchelwyr ei gyfnod, ond ar yr un pryd y mae'n sefyll ar wahân iddynt. Canai ar fesur y cywydd. Ceir nifer o gerddi a briodolir iddo yn y llawysgrifau Cymraeg ond anodd gwybod a yw'r awduraeth yn ddilys yn achos y mwyafrif o'r testunau hyn. Cedwir llun y credid unwaith mai Siôn Cent ei hun ydoedd ym mhlas Llan-gain, Swydd Henffordd.[2]

Siôn Cent
FfugenwSion Cent Edit this on Wikidata
Ganwydc. 1367 Edit this on Wikidata
Teyrnas Brycheiniog Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1430 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaSir Frycheiniog Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Mae peth cymhlethdod efo olrhain hanes bywyd Siôn Cent, gan fod mynach arall o'r un enw yn esgobaeth Henffordd tua'r un cyfnod a'r bardd. Aelod o urdd y Brodyr Llwyd oedd y Siôn Cent arall, tra fo'r bardd yn aelod o urdd y Sistersiaid. Bu farw Siôn Cent y brawd Llwyd ym 1348 a chladdwyd ef yn Henffordd.[3]

Ychydig a wyddys am y bardd y cyfeirir ato yn y ffynonellau llawysgrifol fel Siôn Cent neu Siôn y Cent. Ar sail ei gywydd moliant i Frycheiniog, y mae'n deg ei gysylltu â'r parthau hynny – o leiaf, ar un adeg yn ei fywyd - er nad oes unrhyw dystiolaeth mai oddi yno yr hanoedd yn wreiddiol:

Brycheiniog, bro wych annwyl,
Brychan dir, lle gwelir gŵyl.
Brychan wlad dyfiad dwyfawl,
Braich Duw i'th gadw rhag broch diawl.[4]

Er y ceir traddodiadau sy'n cysylltu Siôn Cent â Rhos ar Wy a Kentchurch yn Swydd Henffordd, y mae'n bwysig nodi bod tystiolaeth i glerigwyr a gyfenwid hwythau yn 'Kent', ond a berthynai i genhedlaeth hŷn na'r bardd Cymraeg. Fodd bynnag, cyfeirir at 'Ysgubor Siôn Cent' a 'Derwen Siôn Cent' ym mharc plasdy y teulu Scudamore yn Kentchurch, ac fe dybir bod cysylltiad rhwng y Scudamoriaid ac Owain Glyn Dŵr. Oherwydd y cysylltiad tybiedig rhwng Siôn Cent a theulu'r Scudamoriaid a bod Syr John Scudamore yn fab yng nghyfraith i Owain Glyn Dŵr, mae rhai wedi damcanu mae, "hunaniaeth ffug" Glyn Dŵr i guddio rhag Brenin Lloegr oedd Sion Cent.[5] Ond gan fod modd olrhain hanes eglwysig y bardd o'i ordeinio ym 1366, blynyddoedd maith cyn cychwyn gwrthryfel Glyn Dŵr, gellir bod yn sicr nad oes sail i'r fath honiad.[3]

Credai Saunders Lewis fod Siôn wedi graddio ym Mhrifysgol Rhydychen ac i'r athronydd Roger Bacon ddylanwadu arno, ond Sion Cent y Brawd Llwyd oedd hwnw.

Ymddengys fod Siôn Cent wedi canu o leiaf ddwy gerdd yn erbyn y beirdd. Un ohonynt sydd wedi goroesi, a hynny mewn dwy ffurf bur wahanol. Cywydd yw hwn, ac fe ymosodir ynddo ar gam-ddefnydd o'r Awen gan feirdd y Gyfundrefn Farddol, a haerir ymhellach mai dwy Awen sydd: y naill yn tarddu oddi wrth Dduw ei hun, a'r llall o'r "ffwrn natur uffernawl". Cyhuddir y beirdd gan Siôn Cent o ganu'n 'gelwyddog' am eu bod yn dilyn traddodiad eu crefft farddol drwy foli Uchelwyr â gormodiaith ddibrin, gan anwybyddu'n llwyr eu hanghyfiawnderau a'u gormes ar y tlodion. Dechreubwynt oedd hyn i hir ddadl ynghylch swyddogaeth yr Awen ac union rôl y beirdd hwythau yn y gymdeithas y perthynent iddi. Gwelir hyn egluraf, efallai, yn ymryson barddol Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal ar droad yr 17g. Ymatebwyd her Siôn Cent mewn cywydd gan Rhys Goch Eryri, cyfoeswr iddo, yn amddiffyn tarddiad dwyfol Awen y beirdd. Er y cyfeirir weithiau at y cerddi hyn fel ymryson barddol, nid ydynt yn dilyn patrwm confensiynol yr ymryson (ond fe all, wrth reswm, fod testunau eraill a gollwyd).

Elfen amlwg yng ngwaith Siôn Cent yw'r pwyslais ar 'Wagedd ac Oferedd y Byd' (sef y teitl a roddwyd gan Ifor Williams, golygydd canon Siôn, i un o'i gerddi mwyaf trawiadol). Mewn un adran mae'n pentyrru cwestiynau rhethregol am rwysg y byd darfodedig:

Mae'r tyrau teg? Mae'r tref tad?
Mae'r llysoedd aml? Mae'r lleisiad?
Mae'r tai cornogion? Mae'r tir?
Mae'r swyddau mawr, os haeddir?
Mae'r trwsiad aml? Mae'r trysor?
Mae'r da mawr ar dir a môr?
A'r neuadd goed newydd gau,
A'r plasoedd, a'r palisau?[6]

Dadleuwyd bod elfen fywgraffyddol yn y cerddi o waith Siôn Cent ar destunau megis y Saith Bechod Marwol ac Edifeirwch, ond rhaid nodi bod y rhain yn dopos, neu deip o gerdd, a arferid gan y beirdd yn enwedig yn ystod dau brif gyfnod penydiol blwyddyn yr Eglwys, sef Adfent a'r Grawys. Ceir enghreifftiau tebyg i hyn mewn cannoedd o gerddi cyffelyb:

Annoeth rwyf, heb ofn na thranc,
Fy mywyd tra fûm ieuanc ;
Camgerdded bedw a rhedyn,
A choed glas yn uched glyn.[4]

Mae arddull Siôn yn syml a llawer llai addurnedig na gwaith y rhan fwyaf o'i gyfoeswyr. Mae'n hoff o ailadrodd i daro'r neges adref, yn chwarae â geiriau, yn defnyddio diarhebion, ac yn llunio gwrthgyferbynnau trawiadol.

Cysylltir sawl cywydd brud ag enw Siôn yn ogystal, ond mae dilysrwydd eu hawduraeth yn ansicr. Yr unig gerdd o naws frudiol sydd efallai'n waith y bardd yw'r cywydd a adnabyddir wrth ei llinell gloi enwog "Gobeithiaw a ddaw ydd wyf". Ynddo ceir Siôn yn atgoffa'r Cymry o'u gorffennol anrhydeddus: Pennaf nasiwn, gwn gwmpas, / Erioed fuom ni o dras — ac yn gresynu ynghylch ei chyflwr presennol, gan obeithio y daw'r dydd pryd y gwelir dyfodiad y Mab Darogan.

Traddodiadau

golygu

Tyfodd nifer o chwedlau a thraddodiadau am Siôn Cent. Fe'i hystyrid yn fath o ddewin, yn fynach, yn Lolard chwyldroadol, ac ddoethur mawr. Mae lle i gredu bod cof amdano dros Glawdd Offa mewn traddodiad llên gwerin a geir mewn drama o'r enw John a Kent and John a Cumber (diwedd yr 16g).

Llyfryddiaeth

golygu

Testunau

golygu
  • Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, gol. Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams (arg. cyntaf: Bangor, 1925, ail arg.: Caerdydd, 1937).

Astudiaethau

golygu
  • Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, gol. Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams (arg. cyntaf: Bangor, 1925), cxxxvi–clxvii, 237–87; (ail arg.: Caerdydd, 1937), lxii–lxxx, 251–98
  • D.J. Bowen, 'Siôn Cent a'r ysgwieriaid', Llên Cymru xxi (1998), 8–37
  • Andrew Breeze, 'Llyfr durgrys', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd xxxiii (1986), 145
  • ______. 'Siôn Cent, the Oldest Animals and the Day of Man's Life', ibid. xxxiv (1987), 70–6;
  • ______. 'Llyfr Alysanna', ibid. xxxvii (1990), 108–11
  • M. Paul Bryant-Quinn, ‘ “Trugaredd mawr trwy gariad”: golwg ar ganu Siôn Cent’, Llên Cymru xxvii (2004), 71–85
  • ______. 'Chwedl Siôn Cent', Cof Cenedl XX, gol. Geraint H. Jenkins (2005), tt. 1–31
  • Dafydd Johnston, Llên yr Uchelwyr (gw. Mynegai, ‘Siôn Cent’)
  • Bobi Jones, I'r Arch (Llandybïe, 1959), 70–84
  • Saunders Lewis, Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (ail arg. Caerdydd, 1986), 102–114
  • ______. 'Siôn Cent', Meistri a'u Crefft, gol. Gwynn ap Gwilym (Caerdydd, 1981), 148–160
  • A.T.E. Matonis, 'Late Medieval Poetics and Some Welsh Bardic Debates', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd xxix (1982), 635–65
  • D. Densil Morgan, `Athrawiaeth Siôn Cent', Y Traethodydd cxxxviii (1983), 13–20
  • Jean Rittmueller, 'The Religious Poetry of Siôn Cent' (M.Phil. [National University of Ireland], 1977)
  • ______. 'The Religious Poetry of Siôn Cent', Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, iii, ed. John Koch and Jean :Rittmueller (Cambridge, Massachusetts, 1983), 107–47
  • E.I. Rowlands, `Religious Poetry in Late Medieval Wales', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd xxx (1982), 1–19
  • G.E. Ruddock, 'Siôn Cent', A Guide to Welsh Literature 1282–c. 1550: Volume 2, ed. A.O.H. Jarman and Gwilym Rees Hughes, revised by Dafydd Johnston (Cardiff, 1997) 151–69
  • ______. `Dau rebel', Barn, 303 (1988), 29–33
  • Gwyn Thomas, 'Siôn Cent a Noethni'r Enaid', Gair am Air: Ystyriaethau ar Faterion Llenyddol (Caerdydd, 2000), 40–57

Cyfeiriadau

golygu
  1. SION CENT (1367? - 1430?), bardd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Awst 2023
  2. "Siôn Cent [John Kent] (fl. 1400–1430), Welsh-language poet". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/15419. Cyrchwyd 2023-08-29.
  3. 3.0 3.1 Matthews, T (1914). "Hanes Sion Cent". Gwaith Sion Cent (PDF). Llanuwchllyn: Llyfrau ab Owen. tt. 5–8.
  4. 4.0 4.1 Cywyddau Iolo Goch ac Eraill (ail arg. 1937), tud. 256.
  5. "Y Wasg | S4C "S4C yn datgelu wyneb Owain Glyndŵr"". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2023-08-29.
  6. Cywyddau Iolo Goch ac Eraill (ail arg. 1937), tud. 290.