Geirfa diplomyddiaeth

A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y

Alltiriogaethedd
Cysyniad cyfreithiol sydd yn ystyried eiddo real y llysgenhadaeth dan awdurdodaeth yr anfonwr-wladwriaeth, er ei bod wedi ei lleoli yn nhiriogaeth y wladwriaeth letyol.
Breinryddid diplomyddol
Rhagorfreintiau arbennig y diplomydd sydd yn ei ddiogelu mewn gwladwriaethau eraill.
Conswl
Swyddog wedi ei benodi i fyw mewn dinas dramor i wylio yno dros fuddiannau masnachol a hawliau deiliaid ei wladwriaeth ei hun.
Conswliaeth
Cenhadaeth ddiplomyddol dan arweiniad conswl, sydd yn ddarostyngedig i lysgenhadaeth.
Détente
Esmwytho perthynas ddiplomyddol dan straen.
Diplomyddiaeth
Y gelf ac ymarferiad o gynnal trafodaethau rhwng cynrychiolwyr gwladwriaethau gwahanol.
Dyhuddo
Agwedd o ddiddigio a chymodi â'r gwrthwynebwr neu'r gelyn yn y gobaith o gael heddwch.
Gwibddiplomyddiaeth
Ymdrechion diplomydd o wlad neu sefydliad allanol sydd yn gweithredu fel canolwr rhwng y prif bleidiau mewn anghydfod, trwy "wenoli" rhyngddynt, heb i'r prif bleidiau cwrdd a'i gilydd yn uniongyrchol.
Llysgenhadaeth
Cenhadaeth ddiplomyddol dan arweiniad llysgennad.
Llysgennad
Diplomydd sydd yn cynrychioli ei wladwriaeth fel pennaeth ar lysgenhadaeth.
Nesâd
Ail-sefydlu cysylltiadau diplomyddol rhwng gwladwriaethau.

Gweler hefyd

golygu