Ann Parry Owen

ieithydd, geiriadurwraig ac academydd

Ieithydd, geiriadurwraig ac academydd yw'r Athro Ann Parry Owen sy'n arbenigo yn iaith a barddoniaeth yr Oesoedd Canol. Ganwyd hi ym Mangor ac mae'n byw yng Ngheredigion.

Ann Parry Owen
GanwydBangor Edit this on Wikidata
Man preswylLlanilar Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
GalwedigaethCeltegwr, academydd, geiriadurwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaGeiriadur Prifysgol Cymru Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Mae Parry Owen o deulu diwylliedig, gyda'i thaid, Huw Parry Owen (neu "Huw Foelgrachen") yn fardd gwlad o ardal Uwchaled; sgwennwyd bywgraffiad ohono gan ei fab, Ellis Parry Owen, sef Huw Foelgrachen, Gwasg Gee (1978).[1] Roedd taid Huw yntau'n fardd, a chyhoeddodd bamffled Tecel, gyda'r is-deitl yn nodi: ychydig o ganiadau gan hen ŵr godrau'r mynydd, sef Gabriel Parry. Llanrwst. Argraffwyd gan J. Jones 1854. Sonnir am Gabriel Parry hefyd yn y gyfrol Cwm Eithin fel 'bardd a rhigymwr, gyda natur llenydda ynddo', a disgrifir sut y cododd dyddyn unnos iddo ef a'i wraig Mari yn ardal Uwch Aled ar ôl dychwelyd o Lerpwl.[2]

Mae hi'n aelod o staff y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ers agor y Ganolfan ar 1 Hydref 1985 lle gweithiodd ar brosiect 'Beirdd y Tywysogion' rhwng 1985 a 1993, gan gydweithio â Dr Nerys Ann Jones ar farddoniaeth Cynddelw Brydydd Mawr o’r 12g, fel Cymrawd Ymchwil. Yn 1993 cafodd ei phenodi'n arweinydd prosiect ymchwil ar 'Feirdd yr Uchelwyr', prosiect a gynhyrchodd 44 cyfrol o farddoniaeth, dros ugain mlynedd, gan gydweithio gydag adrannau Cymraeg y prifysgolion. Mae'r gyfres ar gael ar lein yn agored ar Borth Adnoddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.[3]

Yn 2007 arweiniodd brosiect gwerth £900K gan yr AHRC, sef Prosiect Guto'r Glyn, lle gwelwyd tîm o ymchwilwyr wrthi am gyfnod o bum mlynedd yn creu golygiad newydd a digidol o waith y bardd Guto'r Glyn o'r 15g.[4] Rhwng 2015 a 2017 bu Parry Owen yn Gyd-Archwilydd prosiect 'Cwlt y Seintiau yng Nghymru', gan olygu o'r newydd dair awdl fawr o’r 12g i’r seintiau: Dewi, Cadfan a Thysilio. Rhwng 2018 a 2021, bu'n Gyd-Archwilydd y prosiect ‘Tirweddau Cysegredig Mynachlogydd yr Oesoedd Canol’. Bellach mae hi'n Gyd-Archwilydd ar brosiect 'Barddoniaeth Myrddin' (ar y cyd rhwng y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd).

Mae hi'n Olygydd Hŷn gyda Geiriadur Prifysgol Cymru ers 2017. Hi hefyd yw prif olygydd Studia Celtica.[5]

Cyhoeddodd gasgliad John Jones, Gellilyfdy, o eiriau'r cartref, crefftau traddodiadol, byd amaeth a byd natur yn ei chyfrol Geirfâu'r Fflyd, 1632-33.[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. abebooks.com; adalwyd 13 Chwefror 2024.
  2. Cwm Eithin; tudalen 69. Gwasg y Brython, Lerpwl (1931).
  3. Parry Owen, Ann (2023-02-28). "Cyfres Beirdd yr Uchelwyr". Porth Adnoddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 2024-02-14.
  4. "Gutor Glyn.net". gutorglyn.net. Cyrchwyd 2024-02-12.
  5. "Studia Celtica | UWP | UWP". www.uwp.co.uk (yn Saesneg). 2017-02-22. Cyrchwyd 2024-02-12.[dolen farw]
  6. Parry Owen, Ann (2023). "Geirfâu'r Fflyd, 1632-1633 | UWP". www.uwp.co.uk. Cyrchwyd 2024-02-12.[dolen farw]

Dolennau allanol

golygu